Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw'r ddeddfwriaeth a greodd safonau'r Gymraeg. Mae'n fframwaith cyfreithiol rwymol y mae'n rhaid i bob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru ei ddilyn i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae ein Polisi ar Safonau’r Gymraeg yn esbonio pa wasanaethau y dylai aelodau’r cyhoedd a'n staff eu disgwyl gennym yn Gymraeg a sut y byddwn yn darparu'r gwasanaethau hynny.

Gwneud cwyn

Gallwch wneud cwyn i ni os byddwn ni'n methu â darparu gwasanaeth Cymraeg, neu os oes unrhyw un yn anfodlon gyda safon y gwasanaeth Cymraeg rydym yn ei ddarparu. 

Gallwch hefyd wneud cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg.

Byddwn yn delio â'r holl gwynion a dderbyniwn yn unol â’n Polisi Cwynion a Chanmoliaeth gan gynnwys y rhai a dderbyniwn mewn perthynas â'n methiant i gydymffurfio â'n Safonau Iaith Gymraeg, Safonau Cyflenwi Gwasanaethau, Safonau Cadw Polisi a Safonau Gweithredol. Ni fydd cwynion sy'n cael eu derbyn yn Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn wahanol o ran yr amseroedd ymateb.

Mae gennym Dîm Cwynion a Chanmoliaeth pwrpasol sy'n ymdrin â chwynion yn ôl Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â'n Safonau Iaith Gymraeg. Bydd unrhyw gŵyn a dderbyniwn mewn perthynas â'n Safonau yn cael ei thrafod gyda'n Cynghorydd Polisi Iaith Gymraeg a rhan berthnasol y busnes dan sylw. Mae ein Tîm Cwynion a Chanmoliaeth yn cydlynu'r ymateb ac yn cyfathrebu â'r achwynydd ym mhob achos.

Mae canllawiau ar gael i'n staff ar ddelio â chwynion mewn perthynas â'r Gymraeg ar ein mewnrwyd. Mae'r ffordd yr ydym yn delio â chwynion yn rhan o'n hyfforddiant ymsefydlu ar ein Safonau Iaith Gymraeg.

Sut rydym yn cydymffurfio â’r safonau

Ein Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Strategaeth a Datblygu Corfforaethol sy'n bennaf gyfrifol am y polisi.

Mae ein Cynghorydd ar Bolisi’r Gymraeg yn monitro ein gwaith i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â safonau'r Gymraeg. Mae gennym Grŵp Pencampwyr y Gymraeg gydag aelodau o bob rhan o'r sefydliad i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r safonau, a rhoi gwybod am unrhyw broblemau.

  • Mae ymarfer monitro yn cael ei gynnal yn flynyddol yn gofyn i'r arweinwyr tîm gwblhau sut mae eu tîm yn cydymffurfio â'r Safonau a chodi ymwybyddiaeth o unrhyw risgiau o ddiffyg cydymffurfio, neu faterion, ac unrhyw gymorth neu gyngor ychwanegol sy'n ofynnol i sicrhau cydymffurfedd.
  • Ar gyfer pob polisi neu brosiect newydd, defnyddir offeryn Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb i asesu'r effeithiau cadarnhaol neu andwyol y byddai'n eu cael ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg – cofnodir gwybodaeth at ddibenion archwilio a'i llofnodi gan ein cynghorydd polisi'r Gymraeg fel rhan o'r broses.
  • Anfonir e-bost at staff nad ydynt wedi hunanasesu a chofnodi eu sgiliau Cymraeg i'w hatgoffa o'r angen i gwblhau'r weithred hon. Gofynnir hefyd i reolwyr llinell sicrhau bod staff yn cwblhau'r dasg hon.
  • Cytunir ar asesiad sgiliau Cymraeg ar gyfer pob swydd newydd neu wag gan y rheolwr recriwtio a Chynghorydd Arbenigol y Gymraeg, gan ystyried natur, lleoliad y swydd a gallu siaradwyr Cymraeg oddi fewn y tîm, i weld a yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu ddymunol neu fod angen eu dysgu ar gyfer pob swydd. Cofnodir yr wybodaeth at ddibenion archwilio a chofnodi. Rhoddir copi o'r lefel iaith y cytunwyd arni i'r Tîm Recriwtio cyn hysbysebu.
  • Fel rhan o'r broses ymsefydlu gyda staff newydd, gofynnir i reolwyr drafod gofynion y Safonau, ynghyd â pholisïau a gweithdrefnau corfforaethol eraill. Caiff y rhestr wirio ymsefydlu ei llofnodi gan y gweithiwr a'r rheolwr a'i chadw ar ffeil.
  • Mae'r holl staff newydd yn mynychu cwrs ymsefydlu ac yn cael cyflwyniad ar Safonau'r Gymraeg.
  • Mae ceisiadau am gyfieithu yn cael eu monitro gan y Tîm Cyfieithu er mwyn cydymffurfio â'n rhestr wirio ar gyfer cyfieithu Cymraeg, ac fe amlygir materion i'n Cynghorydd Polisi'r Gymraeg i'w trafod.
  • Mae'r Tîm Cyfathrebu Digidol yn sicrhau cydymffurfedd â Safonau'r Gymraeg a Safonau Digidol, sydd hefyd yn cynnwys gofynion y Gymraeg mewn perthynas â'n gwasanaethau digidol ac ar-lein. Codir a thrafodir materion gyda Chynghorydd Arbenigol y Gymraeg.
  • Mae gweithdrefn ar waith i helpu rheolwyr contractau i fonitro cydymffurfedd â Safonau'r Gymraeg mewn cytundebau contract.
  • Mae gennym dîm penodedig sy'n cofnodi ac yn delio â'r holl gwynion a dderbynnir ac sy'n sicrhau yr ymdrinnir â hwy yn unol â hynny mewn modd amserol.

Caiff unrhyw risgiau o beidio â chydymffurfio â'r safonau eu dwyn i sylw aelodau ein Tîm Gweithredol er mwyn iddynt eu trafod gyda'u rheolwyr i sicrhau bod staff yn deall yr hyn y mae'n ofynnol iddynt ei wneud.

Sut rydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg

Sut rydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg i'n cwsmeriaid

  • Rydym yn cymryd rhan yn Niwrnod Hawliau'r Gymraeg y Comisiynydd Cymraeg bob blwyddyn i hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
  • Rydym yn hyrwyddo diwrnodau a digwyddiadau diwylliant Cymreig ar y fewnrwyd, ar Yammer, ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
  • Gweithredir ein holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog gyda chymorth gan ein Tîm Cyfathrebu.
  • Mae'r rhagdudalen ar ein gwefan yn darparu dewis iaith i'r defnyddiwr bob tro y mae'n cyrchu ein gwefan.
  • Mae togl Cymraeg/Saesneg ar gornel dde uchaf pob tudalen o'n gwefan, sy'n caniatáu i'r defnyddiwr newid ieithoedd yn hawdd, gyda'n gwefan a'n gwybodaeth ar gael yn Gymraeg.
  • Mae pob un o'n swyddi gwag yn cael eu hysbysebu yn Gymraeg gydag ymgeiswyr yn gallu gwneud cais yn Gymraeg os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.
  • Mae ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid yn cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog gyda'r holl staff yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ac mae ein gwasanaeth ateb awtomataidd yn darparu dewis iaith i bob galwr.
  • Mae ein desgiau derbynfa yn ein swyddfeydd cyhoeddus yn arddangos posteri “Iaith Gwaith” a bydd ein haelodau staff Cymraeg yn gwisgo bathodyn neu laniard “Iaith Gwaith”.
  • Mae gan bob aelod o'n staff sy'n siarad Cymraeg fathodyn neu laniard “Iaith Gwaith” i'w gwisgo.
  • Bydd yr hysbysebion a gyhoeddwn yn ddwyieithog â'r testun Cymraeg i'r chwith neu uwchlaw'r Saesneg.

Sut rydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg i staff

  • Cyhoeddir ymwybyddiaeth o'r Safonau yn rheolaidd ar y fewnrwyd ac yn y cylchlythyr misol i reolwyr, lle gofynnir i reolwyr drafod eu gofynion gyda'u timau.
  • Mae'r fewnrwyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg i staff ei defnyddio.
  • Mae tudalen Gymraeg bwrpasol ar y fewnrwyd gydag arweiniad i staff sicrhau cydymffurfedd.
  • Mae aelodau’r Grŵp Pencampwyr yn gweithredu fel cyswllt rhwng Cynghorydd Polisi'r Gymraeg a phob cyfarwyddiaeth wrth godi ymwybyddiaeth o ofynion y Gymraeg.
  • Cyhoeddir templedi Microsoft dwyieithog ar y fewnrwyd i staff eu defnyddio wrth ohebu ag eraill, sy'n cynnwys paragraff ar ystyriaethau gofynion y Gymraeg wrth ddrafftio gohebiaeth.
  • Mae templed Microsoft PowerPoint ar waith i helpu i sicrhau bod cyflwyniadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
  • Mae'r holl bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau staff ar gael i staff yn Gymraeg ar y fewnrwyd.
  • Mae'r weithdrefn gwynion yn cynnwys y gallu i staff ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod y broses.
  • Mae tudalen bwrpasol ar gyfer Hyfforddiant Cymraeg ar y fewnrwyd gyda gwybodaeth am gyrsiau, sut i archebu lle ar gwrs, ac awgrymiadau a chynghorion defnyddiol i ddysgwyr.
  • Bydd y Tîm Dysgu a Datblygu yn trefnu cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar gais staff.
  • Mae ein cyrsiau gorfodol ar-lein yn y broses o gael eu cyfieithu, a bydd cyrsiau newydd yn y dyfodol yn cael eu datblygu'n ddwyieithog.
  • Mae tudalen Yammer i staff ar waith ar gyfer ein cyrsiau Hyfforddiant Cymraeg ac un ar wahân i'n dysgwyr i drafod materion sy'n ymwneud â'u proses ddysgu.
  • Mae pecyn gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg, Cysgliad, ar gael i'r holl staff ei ddefnyddio.
  • Mae templed llofnod corfforaethol ar gael i'r holl staff ei ddefnyddio sy'n cynnwys y geiriad canlynol:-
  • Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb i hynny arwain at oedi. Correspondence in Welsh is welcomed, and we will respond in Welsh without it leading to a delay.
  • Gall staff dderbyn gwybodaeth y cyfeirir yn bersonol atynt yn Gymraeg.

Adroddiad monitro blynyddol

Bob blwyddyn caiff adroddiad blynyddol ei ysgrifennu ar sut rydym wedi gweithredu'r safonau dros y flwyddyn ariannol. Cyflwynir yr adroddiad i'n Bwrdd a'n Tîm Gweithredol i'w gymeradwyo, ac fe'i cyhoeddir ar ein gwefan erbyn diwedd mis Medi bob blwyddyn.

Adroddiad blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg 2014-2015
Adroddiad blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg 2015-2016
Adroddiad blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg 2016-2017

Adroddiad blynyddol ar yr Iaith Gymraeg

Adroddiad blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2017-2018
Adroddiad blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2018-2019
Adroddiad blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2019-2020
Adroddiad blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2020-2021
Adroddiad blynyddol yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2021–2022

Diweddarwyd ddiwethaf