Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Lleoedd i ymweld â

Gwybodaeth am leoedd i fynd iddynt yn yr awyr agored gan gynnwys y coedwigoedd a’r gwarchodfeydd natur cenedlaethol rydym yn eu rheoli, Llwybr Arfordir Cymru a tri llwybr cenedlaethol Cymru.

A-Y o leoedd i ymweld.

Family at Bod Petryal lake Gogledd Ddwyrain Cymru

Darganfyddwch heddwch Coedwig Clocaenog neu’r sawl coetir a geir yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Mwynhewch y llwybrau beicio o amgylch y llynnoedd yng Nghoedwig Hiraethog neu’r llwybrau marchogaeth yng Nghoedwig Dyfnant.

Family group relaxing by the river Gogledd Orllewin Cymru

Archwiliwch dwyni tywod Niwbwrch, a chanfod copa trawiadol Cadair Idris, ewch i feicio mynydd yng Nghoed y Brenin neu fwynhau’r nifer o lwybrau cerdded wedi eu harwyddo ym Mharc Coedwig Gwydyr.

Crossing the miner's bridge at Maenarthur Canolbarth Cymru

Dewch i weld y barcutiaid yn cael eu bwydo ym Mwlch Nant yr Arian, croeswch y llwybr bordiau dros Gors Caron, cerddwch i darddle Afon Hafren neu beth am fwynhau’r teithiau cerdded a’r rhaeadrau dramatig yn stâd hanesyddol yr Hafod.

Mountain biker high up at Afan De Ddwyrain Cymru

Rhowch gynnig ar wylio adar yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, gwlychwch eich traed ym Mro’r Sgydau, ewch i feicio mynydd yng Nghwmcarn neu Afan neu beth am fwynhau diwrnod allan i’r teulu yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant.

Family picnic with bikes De Orllewin Cymru

Ewch â’r teulu i feicio mynydd drwy Goedwig Brechfa, ewch i weld gwarchodfeydd arfordirol Oxwich ym Mhenrhyn Gŵyr a Stackpole yn ne Penfro neu beth am gerdded at sgwd mewn coetiroedd anghysbell ger Llanymddyfri.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.