Coed Maen Arthur, ger Aberystwyth

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coed Maen Arthur yn swatio yng Nghwm Ystwyth ger pentref Pont-rhyd-y-groes.

Mae’r daith â chyfeirbwyntiau drwy’r coetir yn arwain at Gastell Grogwynion, un o fryngaerau mwyaf Cymru, ac yn mynd heibio’n agos i raeadr drawiadol.

Ar un adeg bu’r ardal yn gartref i ddiwydiant gwaith plwm prysur.

Gellir cyrraedd y daith gerdded ar draws bont bren uchel dros geunant afon dwfn - cymrodd y bont hon le’r un a ddefnyddiwyd gan y mwyngloddwyr y credir iddi gwympo.

Mae Coed Maen Arthur yn arbennig o hardd yn yr hydref, pan fo’r coed yn dân o felyn a choch.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Maen Arthur

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3 milltir/4.7 cilometr
  • Amser: 2 awr
  • Gwybodaeth am y llywbr: I gyrraedd man cychwyn y llwybr rhaid ichi fynd trwy giât y llwybr troed gyferbyn â’r olwyn ddŵr ym Mhont-rhyd-y-groes. Ewch i lawr y grisiau a chroeswch y bont dros y ceunant - cadwch lygad am y panel gwybodaeth ar y graig ar ochr arall y bont. Mae gan y gylchdaith hon nifer o ddringfeydd hir a disgyniadau serth. Bydd yr arwynebedd yn arw ac yn wlyb mewn mannau o bosibl. Cadwch ar y llwybr ar y rhan o’r daith yn ôl – disgyniadau serth i lawr y clogwynau a cheunant. Gall llif yr afon fod yn gyflym iawn ar ôl glaw trwm a gall godi’n gyflym iawn – cadwch yn glir.

Mae Llwybr Maen Arthur yn dringo llechwedd goediog y fryngaer o’r Oes Haearn ac yn arwain at lannerch gyda golygfeydd dros y coed ac i lawr i’r cwm.

Mae’r llwybr yn mynd heibio i raeadr ysblennydd ac yna’n dilyn yr afon chwim.

Mae’n dychwelyd hyd lwybr ar hyd gwaelod y ceunant.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coed Maen Arthur yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae Coed Maen Arthur 14 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Mae yn Sir Ceredigion.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Coed Maen Arthur ar fap Explorer 213 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 738 722.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed.

Ewch yn eich blaen drwy Drawscoed ac, ar ôl 1½ milltir, trowch i’r chwith yn syth ar ôl y bont.

Dilynwch yr afon tuag at Bont-rhyd-y-groes, lle mae'r olwyn ddŵr wrth ochr dde'r ffordd.

I gyrraedd man cychwyn y llwybr rhaid ichi fynd trwy giât y llwybr troed gyferbyn â’r olwyn ddŵr. Ewch i lawr y grisiau a chroeswch y bont dros y ceunant - cadwch lygad am y panel gwybodaeth ar y graig ar ochr arall y bont.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae’r llwybr yn dechrau’n agos i olwyn ddŵr pentref Pont-rhyd-y-groes​.

I gyrraedd man cychwyn y llwybr rhaid ichi fynd trwy giât y llwybr troed gyferbyn â’r olwyn ddŵr.

Nid oes maes parcio yma felly parrciwch yn synhwyrol ar ochr y ffordd. 

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf