Gwella mynediad i'r awyr agored i bawb

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n anelu at wneud yr awyr agored yn gynhwysol ac yn hygyrch fel bod pawb yn gallu mwynhau tirweddau amrywiol Cymru.

Mae’r tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored yn arwain ar ein gwaith i wella mynediad i bawb.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r tîm wedi bod yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, o gyflogi mudiadau anabledd i gynnal asesiadau ar ein safleoedd hamdden a’n llwybrau i gynhyrchu canllawiau ar gyfer rheolwyr tir.

Mae ein gwaith i wella mynediad i bawb yn enghraifft o ddarparu ein hamcanion llesiant ac mae hefyd yn sicrhau ein bod yn ystyried anghenion pobl sydd â nodweddion a warchodir dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar ein safleoedd i ymwelwyr

Rydym ni’n ymdrechu i wneud ein safleoedd mor hygyrch, cynhwysol a chroesawus â phosibl er mwyn i bawb gael cyfle i fwynhau’r awyr agored.

Rydym ni wedi asesu ein prif safleoedd ar gyfer ymwelwyr i ganfod:

  • a ydym ni’n darparu gwasanaethau a chyfleusterau teg a chyfartal i bawb
  • yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yn dda
  • yr hyn y byddai modd i ni ei wella

Mae canlyniadau’r asesiadau hyn yn cael eu cynnwys mewn adroddiad asesiad Effaith Cydraddoldeb.

Mae nifer o’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â pharhau gyda’r gwaith effeithiol yr ydym ni eisoes yn ei wneud.

Rydym ni’n defnyddio argymhellion eraill o’r adroddiad i’n helpu i wella:

  • arwyddion
  • arwynebau llwybrau
  • cyfathrebu gydag ymwelwyr
  • gwybodaeth ac arweiniad i staff er mwyn ystyried pob nodwedd a warchodir

Darllenwch grynodeb gweithredol yr adroddiad asesu Effaith Cydraddoldeb

Canllawiau ar fynediad cynhwysol i’r awyr agored

Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda’r Sensory Trust i ddatblygu canllawiau i’n helpu i sicrhau bod mynediad i gefn gwlad a mannau agored ar gael yn gyfartal i bobl o bob oedran, amgylchiad a chefndir.

Mae’r canllaw (Trwy Bob Dull Rhesymol: Mynediad Lleiaf Rhwystrol i’r Awyr Agored) yn cynnig ffordd realistig, ymarferol ac effeithiol o wella hygyrchedd.

Mae’n darparu fframwaith ar gyfer gwella mynediad ac yn annog rheolwyr tir i adnabod y safonau a’r technegau hynny sydd fwyaf addas ar gyfer sefyllfa benodol.

Cafodd y canllaw ei ddylunio i gael ei ddefnyddio gan ein rheolwyr safleoedd hamdden i’w helpu i wella mynediad cynhwysol i’r coetiroedd a’r gwarchodfeydd y maen nhw’n eu rheoli. Darparodd y Sensory Trust hyfforddiant i’n rheolwyr safle’n seiliedig ar y canllaw.

Gall sefydliadau eraill sy’n creu, rheoli neu gynnal cyfleusterau mynediad hamdden hefyd ddefnyddio’r canllaw.

Mae’r canllaw yn:

  • edrych sut y gellir gwneud llwybrau, safleoedd, cyfleusterau a gwybodaeth gysylltiedig yn fwy hygyrch a chynhwysol
  • ystyried sut i wella’r profiad mewn lleoedd sydd eisoes yn hygyrch

Mae’n defnyddio techneg a elwir yn Gadwyn Hygyrchedd i ganolbwyntio ar fynediad fel cadwyn o ddigwyddiadau sy’n dechrau, er enghraifft, yn y cartref, lle efallai penderfynir ymweld â safle, a dyma lle mae’r ymwelydd yn dychwelyd ar ôl profi’r awyr agored.

Mae’r atodiadau’n cynnwys safonau mynediad ar gyfer gwahanol fathau o safleoedd, dolenni i ddeddfwriaeth a’r sefydliadau perthnasol a chanllawiau ynghylch archwilio llwybrau a chynllunio i weithredu.

Gwybodaeth am ymweliadau hygyrch

Mae hygyrchedd yn benderfyniad i’r unigolyn, ac rydym ni eisiau galluogi pobl i benderfynu a yw ein safleoedd yn addas ar eu cyfer nhw a’u hoffer, yn hytrach nag ein bod ni’n dweud wrthyn nhw beth sy’n addas neu beidio.

Er mwyn helpu pobl i wneud penderfyniad deallus cyn ymweld, rydym ni wedi gweithio gyda chwmni Experience Community i greu ffilmiau am rai o’n llwybrau i’w hychwanegu at yr wybodaeth yr ydym eisoes yn ei darparu i ymwelwyr.

Mae’r ffilmiau’n darparu rhagor o fanylion am lwybrau gyda rhywfaint o lethr, arwynebau anwastad a rhyw lefel o her.

Mae pob ffilm yn dangos person anabl yn defnyddio offer addasol i fynd ar lwybr. Nid yw’r ffilmiau’n nodi pa offer y dylai person ei ddefnyddio, gan adael i’r unigolyn wneud y penderfyniad hwn yn seiliedig ar ddewis yr unigolyn a’i sefyllfa.

Trwy ddarparu gwybodaeth am lwybrau ar ffurf weledol, gallai rhai llwybrau nad oes modd eu graddio’n hygyrch yn ôl meini prawf arferol gael eu hystyried yn ddewis posibl i’r rhai sydd ag offer addas. Bydd hyn yn galluogi mwy o bobl i brofi mwy o dirweddau Cymru.

Mae’r ffilmiau wedi cael eu hychwanegu at adran ymweliadau hygyrch ein gwefan Ar Grwydr sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ein llwybrau cerdded sydd wedi’u graddio o ran hygyrchedd a’n canolfannau ymwelwyr.

Rhagor o fanylion

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf