Daeth y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGHT) i rym ar 28 Mai 2005, gan ddangos yn glir y tir mynediad agored yng Nghymru. Mae un rhan o bump o Gymru wedi cael fapio fel ‘tir mynediad’, lle mae gan y cyhoedd hawl mynediad ar droed.

Diffiniad o dir mynediad

Yn ôl y Ddeddf CGHT, mae tir mynediad agored yn cynnwys cefn gwlad agored (mynyddoedd, gweundiroedd, rhostiroedd a thwyndiroedd) a 'thir comin cofrestredig', sef tir sydd wedi’i gofnodi ar y cofrestri swyddogol sydd ym meddiant yr awdurdodau cofrestru tiroedd comin. Mae hefyd yn cynnwys ardaloedd o 'dir penodedig', lle mae perchnogion megis Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu mynediad am ddim.

Mapio tir mynediad

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio gyda thirfeddianwyr, tenantiaid a phartïon eraill sydd â diddordeb i lunio mapiau manwl gywir o’r holl dir agored a’r tir comin cofrestredig. Mae eglurder o’r fath wedi sicrhau bod pawb yn deall eu hawliau a’u rhwymedigaethau o safbwynt y dirwedd – yn cynnwys perchnogion y tir a’r bobl sy’n ymweld â’r tir.

Tir mynediad ar fapiau Ordnans

Gallwch hefyd weld tir mynediad agored ar fapiau Ordnans (OS) Explorer (1:25,000). Mae ardaloedd mynediad agored wedi'u graddliwio'n felyn, ac mae iddynt ffin oren-frown. Mae tir coedwigaeth sydd wedi'i neilltuo ar gyfer mynediad cyhoeddus yn cael ei ddangos mewn gwyrdd golau, gyda'r un ffin oren-frown. Mae'r mapiau OS Explorer hefyd yn amlygu pwyntiau gwybodaeth allweddol am dir mynediad CGHT. Caiff gwybodaeth bwysig ei dangos yn y mannau hyn, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau lleol a allai fod yn weithredol. Sylwer, fodd bynnag, na fydd y mapiau OS Explorer o bosibl yn dangos tir mynediad caniataol neu unrhyw ardal o dir mynediad CGHT sy'n llai na 5 hectar.

Gweld mapiau mynediad agored

Gallwch ddod o hyd i dir mynediad agored ar ein syllwr mapiau. Gallwch chwyddo’r map (gan ddefnyddio’r botwm yn y gornel chwith uchaf) i gyrraedd map Explorer yr Arolwg Ordnans.

Gallwch hefyd weld mathau gwahanol o dir mynediad agored ar MapDataCymru.

Arddangos symbolau mynediad ar y tir

Tir mynediad agored. Ardaloedd o dir agored, tir comin cofrestredig neu dir dynodedig (o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000) sy'n agored i bobl gerdded, rhedeg, fforio, dringo, gwylio bywyd gwyllt etc, heb orfod aros ar lwybrau.

Mae symbol mynediad 'negyddol' yn dynodi diwedd mynediad ardal gyfan, er y gall hawliau mynediad eraill fod yn weithredol, megis hawliau tramwy cyhoeddus, er enghraifft.

Dogfennau defnyddiol

Cwestiynau Cyffredin am Ddarpariaethau Mynediad y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy - Pasiwyd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGHT) yn y flwyddyn 2000. Mae'r Ddeddf yn rhoi hawl mynediad ar droed at ddibenion hamdden awyr agored. Yng Nghymru, dechreuodd yr hawl a roddwyd o dan y Ddeddf ym mis Mai 2005. Mae'r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth am yr adolygu mapiau a fu yn 2012.

Ystadegau Adolygu Mapiau Mynediad Agored - Ffigurau defnyddiol yn seiliedig ar y mapiau drafft, y mapiau dros dro a'r mapiau terfynol presennol.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ‒ Sut i ddefnyddio'r cyfyngiadau - Cyfarwyddyd i berchnogion a rheolwyr tir yn egluro sut y gallai hawliau mynediad fod yn gyfyngedig ar 'dir mynediad' sy'n cael ei greu o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy. Mae'n rhoi ychydig o wybodaeth gefndirol ac yn egluro'r ffyrdd gwahanol o gyfyngu ar yr hawl, a'r gweithdrefnau i'w dilyn ymhob achos.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ‒ Canllawiau Tir a Eithrir i Gymru - Canllawiau ar dir eithriedig, sef tir lle nad yw'r hawliau mynediad o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn berthnasol.

Rheoli Mynediad Cyhoeddus i Ardaloedd o Dir - Cyfarwyddyd i berchnogion a rheolwyr tir sy'n canolbwyntio ar fynediad cyhoeddus i ardaloedd o dir gan gynnwys materion mynediad ac atebolrwydd o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’n diweddaru’r wybodaeth a gafwyd yn y cyhoeddiad Rheoli Mynediad Cyhoeddus yn 2005.

Cymorth a chyngor ynghylch rheoli mynediad

I gael cyngor a chymorth am rannau penodol o’ch tir neu hawliau tramwy cysylltwch ag Adran Gwasanaeth Warden, Cefn Gwlad neu Hawliau Tramwy'r Awdurdod Lleol, neu’r Awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol.

I gael cyngor am iechyd a diogelwch edrychwch ar wefan y Gweithredwr Iechyd a Diogelwch.

Mae’r Visitor Safety in the Countryside Group yn cwrdd yn rheolaidd er mwyn cyfnewid gwybodaeth a datblygu syniadau. Mae’r grŵp yn ymchwilio i ddulliau o greu mynediad diogel i gefn gwlad heb ddifetha’r tirwedd a’r dreftadaeth, neu leihau ymdeimlad ymelwyr o antur.

Manylion cyswllt yr Awdurdodau Perthnasol:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Ffôn: 0300 065 3000
Ebost: openaccessmapping@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
Powys
LD3 7HP
Ffôn: 01874 624437
Ebost: enquiries@beacons-npa.gov.uk

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordirol Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY
Ffôn: 0845 345 7275
Ebost: gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF
Ffôn: 01766 770274
Ebost: parc@eryri-npa.gov.uk

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 029 2082 3866
Ebost: wales@pins.gsi.gov.uk
Gwefan: https://www.gov.uk/government/collections/the-countryside-and-rights-of-way-act-2000-access-appeals

Mwy o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Diweddarwyd ddiwethaf