Mae mynediad caniataol yn golygu llwybr neu ardal ar dir preifat y mae'r tirfeddiannwr wedi rhoi caniatâd i bobl ei ddefnyddio/defnyddio. Ni ddangosir llwybrau mynediad caniataol fel arfer ar fapiau am nad ydynt yn barhaol ac am nad oes cytundeb ffurfiol ar waith o bosibl.

Gall mynediad caniataol fod yn ychwanegiad defnyddiol at lwybrau lleol a rhwydweithiau eraill gan ddarparu mynediad i drigolion ac ymwelwyr i gefn gwlad a choetiroedd yn ogystal â rhai ardaloedd trefol.

Gall mynediad caniataol hefyd ddarparu mynediad i amwynderau lleol neu ardaloedd neu nodweddion o ddiddordeb a oedd yn anhygyrch o'r blaen, megis gwylfannau, safleoedd hanesyddol ac archeolegol, coed treftadaeth a thirweddau amrywiol.

Darpariaethau

Ni chwmpesir llwybrau caniataol nac ardaloedd caniataol gan gyfreithiau sy'n ymwneud â Hawliau Tramwy Cyhoeddus neu Dir Mynediad o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Fodd bynnag, mae rhai darpariaethau tebyg yn gymwys. Er enghraifft, ni ddylai llystyfiant bargodol fod yn rhwystro rhywun rhag mynd ar hyd y llwybr.

Cytundebau a dyletswydd gofal

Os gwnaed cytundeb rhwng y tirfeddiannwr a'r awdurdod priffyrdd, gallai'r awdurdod fod yn fodlon ymdrin ag unrhyw broblemau a wynebir wrth ddefnyddio llwybr caniataol, er nad oes unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny. Mewn rhai achosion, bydd cytundeb yn neilltuo cyfrifoldebau rhwng y tirfeddiannwr a'r awdurdod.

Mae gan dirfeddianwyr ddyletswydd gofal i'r rhai sy'n defnyddio mynediad caniataol i groesi eu tir.

Enghreifftiau o fynediad caniataol

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o'r mathau o fynediad y gall mynediad caniataol eu darparu:

  • Mynediad ychwanegol, mewn mannau lle mae hawliau mynediad eisoes yn bodoli. Er enghraifft, gall hyn ganiatáu i farchogion neu feicwyr ddefnyddio llwybr sy'n llwybr troed cyhoeddus. Os bydd pobl am feicio, marchogaeth neu yrru ar hyd llwybrau caniataol, neu wersyllfa ar dir gyda mynediad caniataol, bydd angen caniatâd y tirfeddiannwr gan mai dim ond ar droed y caniateir mynediad fel arfer
  • Tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thir gyda chytundebau mynediad y Parciau Cenedlaethol, lle mae'r tirfeddiannwr neu denant y tir wedi cytuno i ganiatáu mynediad cyhoeddus ar gyfer hamddena awyr agored, fel arfer ar droed 
  • Tir gyda chytundeb rhwng tirfeddiannwr a grŵp penodol o ddefnyddwyr. Yn yr achosion hyn, bydd defnyddwyr yn cyd-drafod â'r tirfeddiannwr i gael mynediad i lwybr neu ardal benodol i gynnal eu gweithgarwch. Gall hyn fod yn glwb dringo yn gofyn am ganiatâd i ddringo craig, er enghraifft, neu grŵp marchogaeth yn cyd-drafod mynediad ar gyfer llwybrau neu ardaloedd marchogaeth ychwanegol. Mae cynlluniau o'r fath yn amrywio ac efallai y bydd angen bod yn aelod o grŵp neu glwb penodol. Efallai y bydd angen i bobl sy'n cael mynediad i dir gydymffurfio â rheolau neu gyfyngiadau penodol, talu am fynediad neu wneud cyfraniad tuag at waith cynnal a chadw'r mynediad neu'r ardal
  • Mynediad ar draws tir amaethyddol a ddarperir o fewn cynlluniau a ariennir gan y Llywodraeth megis Glastir, sef cynllun rheoli tir cynaliadwy sydd wedi cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru ers 2013. Dechreuodd Glastir - Yr Elfen wedi'i Thargedu yn 2013 a rhoddodd opsiwn ar gyfer darparu mynediad caniataol. Gall ffermwyr a pherchnogion coetiroedd lunio cytundebau pum mlynedd i reoli eu ffermydd mewn ffordd amgylcheddol sensitif a gall hyn gynnwys caniatáu i'r cyhoedd gael mynediad i rai llwybrau neu ardaloedd penodol
  • Mae Parciau Gwledig ar gael ledled Cymru. Mae rhai yn eiddo preifat ac yn cael eu rheoli'n breifat, gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er enghraifft, ond mae'r rhan fwyaf yn perthyn i awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill. Mae mynediad am ddim fel arfer, er y gellir codi tâl am barcio ceir neu am ddefnyddio cyfleusterau. Gellir codi tâl hefyd am fynediad ar ddiwrnodau pan gynhelir digwyddiadau arbennig
  • Mae llwybrau beicio yn fath arall o lwybr cyhoeddus a grëir yn benodol ar gyfer beicio. Weithiau bydd y cyhoedd yn gallu cerdded neu farchogaeth arnynt hefyd. Datblygwyd llawer o lwybrau ar goetir Llywodraeth Cymru, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ar gyfer beicio mynydd neu feicio teuluol hawdd a marchogaeth, yn ogystal â cherdded a rhedeg. Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol hefyd yn cynnwys llawer o lwybrau eraill; cânt eu hyrwyddo gan Sustrans. Caniateir beicio ar lwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig. Bydd gan rai ardaloedd rwydweithiau datblygedig o lwybrau caniataol
  • Mae gan lawer o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a choetiroedd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru fynediad caniataol hefyd. Edrychwch ar eich Map Hamddena i ganfod ble mae'r llwybrau ledled Cymru

Sut i wybod a yw ardal yn caniatáu mynediad caniataol?

Gall y pwyntiau canlynol fod yn ddefnyddiol wrth nodi tir neu ardaloedd sy'n caniatáu mynediad caniataol:

  • Ni ddangosir llwybrau caniataol fel arfer ar fapiau Arolwg Ordnans, am nad ydynt yn barhaol. Fodd bynnag, dangosir rhai llwybrau, yn enwedig lle maent yn rhan o lwybr a hyrwyddir
  • Bydd arwyddion a chyfeirbwyntiau clir ar lwybrau Glastir, ar y ddaear ac yn y fynedfa i unrhyw ardal lle caniateir mynediad
  • Weithiau bydd hysbysiad bob pen i'r llwybr i dynnu sylw at fodolaeth y llwybr ac yn amlinellu unrhyw amodau a bennwyd gan y perchennog. Gellir nodi, er enghraifft, fod y defnydd yn gyfyngedig i oriau'r dydd, bod yn rhaid cadw cŵn ar dennyn, neu fod y llwybr yn cau ar adegau penodol o'r flwyddyn. Gall tirfeddiannwr hefyd ddangos hysbysiad wedi'i eirio'n gyfreithiol yn nodi nad yw'n bwriadu i'r llwybr ddod yn hawl dramwy gyhoeddus
  • Gall rhai ardaloedd a llwybrau mynediad caniataol gael eu cau ar adegau penodol o'r flwyddyn, fel y gellir cynnal gweithrediadau coedwigaeth neu amaethyddol (fel cynaeafu, wyna neu losgi grug), neu i ddiogelu safleoedd sensitif (er enghraifft, yn ystod tymor nythu adar prin). Gwnewch yn siŵr eich bod yn sylwi ar unrhyw arwyddion ac yn cydymffurfio â hwy

A ganiateir cŵn ar lwybrau caniataol?

Y tirfeddiannwr fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu cŵn ai peidio a neb arall. Gall tirfeddiannwr ddewis p'un a ddylid caniatáu cŵn ai peidio ar dir lle y rhoddwyd mynediad caniataol. Er enghraifft, ers 2013, mae cynllun mynediad Glastir - Yr Elfen wedi'i Thargedu yn caniatáu i ddeiliad tir ddarparu llwybrau caniataol i bobl â chŵn neu heb gŵn.

Darllenwch y wybodaeth ar-lein neu ar hysbysiadau bob amser

Dylai gwybodaeth a ddarperir ar wefannau, neu ar hysbysiadau a ddarperir yn y fynedfa i lwybrau neu ardal ganiataol, nodi a ganiateir cŵn ai peidio.

Dylid cadw cŵn ar dennyn er mwyn sicrhau nad ydynt yn gwneud niwed i anifeiliaid fferm, adar nythu na mathau eraill o fywyd gwyllt.

Diweddarwyd ddiwethaf