Pwrpas

Mae'r Fforwm Mynediad Cenedlaethol i Gymru prif ddibenion yw helpu Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i:

  • wella ansawdd a graddau'r mynediad i gefn gwlad ac arfordiroedd Cymru
  • ymestyn y cyfleoedd i fwynhau a hamddena awyr agored cyfrifol i bawb

Aelodaeth

Wrth geisio cyflawni'r nod hwn, mae'r Fforwm yn cydnabod y rhyngberthynas agos sy'n bodoli rhwng rheoli mynediad a lles amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cyffredinol ein cymunedau gwledig.

Mae gan y Fforwm bron i 40 o aelod-sefydliadau sy'n cynrychioli amrywiaeth eang o fuddiannau sy'n cynnwys:

  • cynrychiolwyr tirfeddianwyr a rheolwyr
  • grwpiau defnyddwyr mynediad i gefn gwlad
  • cyrff cyhoeddus a
  • sefydliadau yn y sector gwirfoddol

Er nad oes ganddo unrhyw statws cyfreithiol, mae lefel ac ystod cynrychiolaeth ei aelodau yn golygu y gall ddylanwadu ar ddatblygiad polisi.

Cyfarfodydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweinyddu ac yn cadeirio'r Fforwm ac mae pob cyfarfod ar agor i'r cyhoedd.

Cyfarfods nesaf:

  • Gorffennaf 2023 (dyddiad a lleoliad i'w gadarnhau);
  • 7 Tachwedd 2023 (arlein)
  • 5 Mawrth 2024 (arlein)

Agendâu a phapurau

Cysylltwch â ni

E-bostiwch National.Access.Forum@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  am ragor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf