Ymchwil Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol

Flood and Coastal Erosion Risk Management R and D

Llifogydd yw un o'r peryglon naturiol mwyaf sy'n effeithio ar ddiogelwch a chynaliadwyedd cymunedau ledled Cymru.

Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd y newidiadau yn ein hinsawdd yn arwain at law trymach a mwy rheolaidd, tywydd mwy stormus ac y bydd lefelau'r môr yn codi. Mae'r ffactorau hyn yn debygol o gynyddu effaith ac amlder llifogydd ac mae angen i ni fod yn barod. Mae angen i ni sicrhau bod ein penderfyniadau, ein gweithrediadau a’n cyngor i’r Llywodraeth ac eraill yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth gadarn, o ansawdd sicr.

Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol

Er mwyn ein helpu i ddiwallu’n hanghenion gwyddoniaeth a thystiolaeth, rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra ar y Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y rhaglen.

Nod y rhaglen, sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr, yw diwallu anghenion pob awdurdod llifogydd ac arfordir gweithredol drwy ddarparu tystiolaeth allweddol er mwyn:

  • llywio'r gwaith o ddatblygu polisi a strategaeth
  • deall ac asesu peryglon arfordirol a llifogydd
  • rheoli asedau llifogydd ac erydiad arfordirol mewn ffordd gynaliadwy
  • paratoi ar gyfer llifogydd a’u rheoli yn effeithiol

Prosiectau cyfredol

Ymhlith prosiectau cyfredol y rhaglen sy'n cefnogi’n hanghenion tystiolaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd cenedlaethol mae:

Dulliau ymarferol o drosglwyddo neu ddatgomisiynu asedau – Cynhyrchu canllaw ymarferol ar gyfer y bobl sy'n ymwneud â'r gwaith o drosglwyddo neu ddatgomisiynu asedau.

Monitro arfordirol a newid arfordirol hanesyddol - Nod y prosiect hwn yw adolygu a dogfennu newid arfordirol hanesyddol ar hyd arfordir Cymru a Lloegr er mwyn llywio penderfyniadau rheoli arfordirol yn y dyfodol, a hynny’n seiliedig ar dystiolaeth gadarn a chynhwysfawr o newid arfordirol.

Manteision cael gwared ar gronfeydd dŵr segur - Bydd y prosiect hwn yn adolygu ac yn ymchwilio i effaith cynlluniau terfynu ac addasu blaenorol, o ran y manteision a'r anfanteision. Bydd yn rhoi cyngor ar y broses a'r hyn sydd i’w ystyried, gan gynnwys ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol.

Llawlyfr Rheoli Llifogydd yn Naturiol – Gwaith datblygu llawlyfr Rheoli Llifogydd yn Naturiol newydd a fydd yn darparu arweiniad ar gynllunio a rheoli i helpu ymarferwyr gyda rheoli llifogydd yn naturiol.

Prosiectau gorffenedig

Ymhlith prosiectau’r rhaglen sy'n cefnogi’n hanghenion tystiolaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn naturiol a gwblhawyd yn ddiweddar mae:

Fframwaith Hydroleg Llifogydd – Bydd y map trywydd hydroleg yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer hydroleg llifogydd ar gyfer y 25 mlynedd nesaf. Bydd yn cyd-fynd â chynllun cyflenwi sy'n manylu camau penodol i'w cyflawni gan y gymuned hydroleg llifogydd o fewn y saith mlynedd gyntaf.

Mae’r map ffordd hydroleg llifogydd yn nodi gweledigaeth ar gyfer hydroleg llifogydd yn y Deyrnas Unedig am y 25 mlynedd nesaf. I gyd-fynd â’r map, mae cynllun gweithredu sy'n manylu ar sut y caiff y weledigaeth honno ei chyflawni.

Mae’r map ffordd yn cwmpasu Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, o 2021 i 2046. Mae'n ystyried pob ffynhonnell o lifogydd mewndirol, gan gynnwys afonydd, glaw a charthffosydd, dŵr daear a chronfeydd dŵr. Mae hefyd yn ystyried yr holl weithgareddau hydroleg llifogydd mewndirol yn y Deyrnas Unedig, o arfer gweithredol i ymchwil wyddonol.

Gweithio gyda’n gilydd i ymaddasu i hinsawdd sy’n newid – llifogydd a'r arfordir – Datblygu ymgysylltiad â chymunedau lle mae'r dyfodol hirdymor o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ansicr oherwydd effaith y newid yn yr hinsawdd. (yn gysylltiedig â’r prosiect gorffenedig Fframwaith Ymchwil a Datblygu ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol: gweithio gyda chymunedau)

Nod y prosiect ymchwil hwn oedd archwilio sut y gall awdurdodau weithio gyda chymunedau ar gynllunio a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol i helpu i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.

Bydd hyn o ddiddordeb i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am sut y gall awdurdodau, cymunedau a phartneriaid gyfnewid barn, meithrin dealltwriaeth a chynllunio gyda'i gilydd.

Deall gwaith llywodraethu perygl llifogydd ac erydu arfordirol effeithiol yng Nghymru a Lloegr – Nod y prosiect hwn yw archwilio a gwerthuso gwaith llywodraethu perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Bydd y prosiect yn defnyddio'r gwersi a ddysgwyd o ystyried dulliau lleol a chenedlaethol o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Asesodd yr ymchwil hwn effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu presennol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol (FCERM) yng Nghymru a Lloegr ac a yw’n addas at y diben ar gyfer y dyfodol yn wyneb y risgiau cynyddol a achosir gan y newid yn yr hinsawdd.

Mae'r ymchwil hefyd wedi creu canllawiau ymarferol ar lywodraethu partneriaeth ar gyfer llunwyr polisi ac ymarferwyr sy'n gweithio o fewn FCERM yng Nghymru a Lloegr.

Beth yw cywasgu arfordirol? - Gwnaeth y prosiect hwn ailddiffinio’r hyn sy'n achosi ‘cywasgu arfordirol’ ac asesodd y ffordd orau o reoli'i effeithiau yn y gorffennol a'r dyfodol.

Datblygu canllawiau cenedlaethol dros dro ar amcangyfrif amlder llifogydd afonol ansefydlog – Mae'r prosiect hwn wedi datblygu offerynnau a thechnegau newydd i'n helpu i ganfod ac ystyried ansefydlogrwydd wrth amcangyfrif amlder llifogydd ar gyfer arfarnu cynlluniau llifogydd.

Cyfleoedd ymchwil eraill

Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i chwilio am ragor o gyfleoedd i lenwi bylchau mewn gwybodaeth a thystiolaeth, er enghraifft trwy grantiau’r cynghorau ymchwil neu drwy weithio gyda phrifysgolion gan gysylltu gweithgareddau ymchwil â rhaglenni gwaith CNC. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys prosiectau a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC):

Rhaglen ymchwil rheoli llifogydd yn naturiol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol – Deall effeithiolrwydd rheoli llifogydd yn naturiol (reading.ac.uk)

Rhaglen o wyddor yr amgylchedd newydd i wella dealltwriaeth o wahanol fesurau rheoli llifogydd yn naturiol ar gyfer amrywiaeth o senarios perygl llifogydd. Mae'r rhaglen yn cynnwys tri phrosiect gwahanol, sy'n cynnwys astudiaethau achos, casglu tystiolaeth a modelu. Ceir gwybodaeth bellach ar ein gwefan.

Diweddarwyd ddiwethaf