Yng Nghymru a Lloegr, amcangyfrifir bod tua 1,500 o feysydd carafannau a gwersylla sy’n wynebu risg o lifogydd o afonydd neu’r môr.
Rhaid i chi wybod eich dyletswyddau diogelu
Fel perchennog parc gwyliau, parc preswyl, maes carafannau neu wersylla, mae’n bwysig eich bod yn gwybod sut mae diogelu eich preswylwyr, ymwelwyr a’ch busnes pe bai llifogydd.
Bydd deall y risg llifogydd y mae eich safle yn ei hwynebu, a pharatoi nawr, yn helpu i gynnal diogelwch y cyhoedd ac yn lleihau’r risg i fywyd. Byddwch hefyd yn gallu dod dros yr amharu anochel ar eich busnes yn gyflymach.
Rhagofal
Hyd yn oed os nad yw eich safle wedi dioddef llifogydd o’r blaen, dylech wybod sut i ddiogelu eich safle a bod yn barod, yn yr un modd ag y byddwch wedi’i wneud yn barod i leihau’r risg o dân. Gall lifogydd ddigwydd unrhyw adeg o’r flwyddyn. Peidiwch â chymryd yn ganiataol na fydd eich safle yn dioddef llifogydd yn ystod misoedd yr haf.
Canllawiau ar gyfer safleoedd yng Nghymru
Mae’r ddogfen, 'Llifogydd - Lleihau'r perygl yng Nghymru', yn cael ei darparu i roi canllawiau i berchnogion a gweithredwyr yng Nghymru. I gael canllawiau tebyg ar gyfer safleoedd yn Lloegr, ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.