Ni roddir ystyriaeth felly i bresenoldeb amddiffynfeydd rhag llifogydd. Defnyddir  Parthau Llifogydd i godi ymwybyddiaeth o lifogydd gyda'n cwsmeriaid, partneriaid rheoli perygl llifogydd ac at ddibenion cynllunio gofodol a datblygu strategol.

Diffiniadau Parth Llifogydd

Parth Llifogydd 3:

  • maint llif o afonydd sydd â phosibilrwydd o 1% (1 mewn 100) neu uwch o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol
  • maint llif o’r môr gyda phosibilrwydd o 0.5% (1 mewn 200) neu uwch o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol

Parth Llifogydd 2:

  • maint llif o afonydd neu o’r môr sydd â phosibilrwydd o hyd at 0.1% (1 mewn 1000) o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol
  • yn cynnwys ardaloedd a gofnodwyd fel rhai sydd wedi gorlifo yn y gorffennol
  • mae Parth Llifogydd 2 yn bwysig o ran cyd-destun cynllunio am ei fod yn sail i Barth C ar Fap Cyngor Datblygu Llywodraeth Cymru (DAM)

Cael gwybod mwy am sut rydym yn rheoli perygl llifogydd

Diweddarwyd ddiwethaf