Cyhoeddi’r bwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol – (Rheoliad 12B o'r Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) (Diwygio) 2017/585 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu cynnal gwaith gwella ar bedair cronfa ddŵr o fewn Coedwig Gwydir. Dyma'r cronfeydd dŵr: Llyn Goddionduoun (SH 752 583), Llyn Tynymynydd (SH767 589), Cronfa Ddŵr Cyfty (SH 773 590), a Llyn Sarnau (SH 779 589). Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys y canlynol: adeiladu gorlifannau cronfeydd dŵr newydd, trwsio argloddiau, codi argloddiau, gwella llwybrau mynediad, darpariaeth i ganiatáu i lyswennod fynd heibio, a gosodiadau offer telemetreg.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn na fydd y gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid ydym yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef. Er na fydd datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno, mae dyluniad y cynllun wedi ystyried y ffactorau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol lle bo hynny'n ymarferol. Gellir gweld dyluniad y cynllun yn Swyddfa Gwydyr Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwydyr Uchaf, Llanrwst, Gwynedd, LL26 0PN, rhwng 10am a 4pm ddydd Llun i ddydd Iau.

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig anfon y rhain, yn ysgrifenedig, at y cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod wedi dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn. 

Andrew Owen Basford
Cyflawni Prosiectau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Heol Caer
Bwcle
Sir y Fflint
CH7 3AJ 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â gwydir.reservoirs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk