Cyngor tywydd sych ar gyfer amaethyddiaeth

Dyfrhau drwy chwistrellu

I amddiffyn yr amgylchedd, gallwn leihau neu atal dyfrhau trwy chwistrellu o dan adran 57 Deddf Adnoddau Dŵr 1991. Mae'r adran hon yn egluro mwy ynglŷn â'r cyfyngiad. 

Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu cyflwyno hysbysiad i ddeiliaid trwyddedau tynnu dŵr ar gyfer dyfrhau trwy chwistrellu, yn lleihau faint o ddŵr y gellir ei dynnu, neu’n atal tynnu dŵr yn gyfan gwbl, am y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad. Pan fydd mwy nag un unigolyn yn meddu ar drwydded ar gyfer tynnu dŵr at ddibenion dyfrhau trwy chwistrellu o'r un ffynhonnell gyflenwi, rhaid inni drin pob un yn yr un ffordd.

Byddwn bob amser yn ystyried mai'r cyfyngiadau hyn yw'r opsiwn olaf ar gyfer cyfyngu'r sector hwn, a byddwn yn gweithio gyda thynwyr dŵr (nid rhai sy'n dyfrhau trwy chwistrellu yn unig) i archwilio manteision cyfyngiadau gwirfoddol i osgoi neu ohirio’r angen i ddefnyddio cyfyngiadau adran 57. Os yw eich trwydded yn cynnwys amodau ‘llif annibynnol’, yna mae'n debyg y byddai'r rhain ar waith cyn inni gyflwyno cyfyngiad adran 57.

Ni chawn gyflwyno hysbysiad yn cyfyngu tynnu dŵr o ddŵr daear at ddibenion dyfrhau trwy chwistrellu oni bai ei bod yn debygol y bydd y tynnu dŵr yn cael effaith ar lif, lefel neu gyfaint dyfroedd mewnol cyfagos megis afon neu nant.

A fyddai’n effeithio ar bawb sy’n dyfrhau?

Na fyddai, byddai'r tynwyr dŵr canlynol ymhlith y rhai sy'n cael eu heithrio:

  • echdyniadau oedd wedi’u heithrio’n flaenorol sydd o fewn cyfnod gwneud cais am drwydded ar hyn o bryd e.e. dyfrhau diferol
  • y rhai sy'n dyfrhau gan ddefnyddio dŵr a gasglwyd mewn cronfeydd storio dros y gaeaf
  • y rhai sy'n defnyddio dŵr i ddyfrhau planhigion sy'n cael eu tyfu mewn potiau nad ydynt yn gallu cael lleithder o'r pridd
  • y rhai sy'n dyfrhau cnydau wedi'u gorchuddio (mewn tai gwydr neu dwnelau polythen)

Os yw eich trwydded yn caniatáu i chi ddyfrhau trwy chwistrellu a defnyddio dŵr at ddiben arall, megis golchi llysiau, byddai’r cyfyngiad adran 57 ond yn berthnasol i'ch gwaith tynnu dŵr at ddibenion dyfrhau trwy chwistrellu.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am eithriadau ar http://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/1992/1096/made

Beth fydd yn sbarduno cyfyngiad Adran 57?

Byddwn yn defnyddio trothwyon dŵr wyneb, megis lefelau a llifoedd dŵr wyneb, ynghyd ag amodau amgylcheddol megis tymheredd dŵr, lefelau ocsigen toddedig, arwyddion straen amgylcheddol a rhagolygon tywydd, i benderfynu pryd y dylid ystyried cyfyngiadau Adran 57.

Byddwn hefyd yn ystyried effeithiau manteisiol posibl cyfyngiadau, gan gynnwys maint y fantais a'r cyfnod yn ystod y tymor. Er enghraifft, ni fyddwn yn gweithredu cyfyngiad Adran 57 y tu allan i'r prif dymor dyfrhau. Mae'n bosibl hefyd y bydd rhesymau lleol yn sbarduno cyfyngiad – er enghraifft, lle mae'r cyflenwad dŵr cyhoeddus yn cael ei fwgwth neu pan fydd gorchmynion neu drwyddedau sychder ar waith.

Sut byddaf yn cael gwybod am gyfyngiad Adran 57 yn cael ei osod?

Os oes angen inni osod cyfyngiad, ni ddylai fod yn annisgwyl ichi, ac mae'n debyg y byddwch yn gweithio gyda ni yn wirfoddol, efallai trwy eich grŵp tynwyr dŵr, i leihau faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio ac i osgoi cyfyngiadau.

Os oes angen inni osod un, byddwn yn eich hysbysu trwy lythyr neu e-bost (os oes un gennych) o leiaf pythefnos cyn ichi orfod lleihau neu atal eich gweithgareddau tynnu dŵr. Mae'n bosibl y byddwn yn gallu cyflwyno cyfyngiadau'n raddol cyn gwahardd gweithgareddau tynnu dŵr.

Os ydych yn gosod gwaharddiad Adran 57, a fydd yn rhaid imi dalu fy ffi flynyddol?

Bydd. I gydnabod yr ansicrwydd mae'r rhai sy'n tynnu dŵr at ddibenion dyfrhau yn eu hwynebu gan waharddiadau Adran 57, a phatrymau tywydd amrywiol, nhw yw'r unig rai sy'n elwa ar ostyngiad yn y ffi o hyd at 50%. Adwaenir y gostyngiad hwn fel 'tariff dwy-ran'. Mae eisoes gan lawer o'r rhai sy'n dyfrhau drwy chwistrellu gytundeb tariff dwy-ran. Os nad oes un gennych chi, cysylltwch â ni ar y rhif isod a byddwn yn dweud wrthych sut i wneud cais am un.

I gael rhagor o wybodaeth

  • Ar gyfer ymholiadau cyffredinol a gwybodaeth am ein tariffau dwy-ran, cysylltwch â'n Canolfan Gofal Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 (dydd Llun – dydd Gwener, 9am – 5pm) neu anfon e-bost at enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
  • Dylai tynwyr dŵr yn nalgylch Afon Hafren ffonio llinell ffôn Rheoleiddio Afon Hafren ar 0800 085 1636.
  • Dylai tynwyr dŵr yn nalgylch Afon Gwy ddefnyddio llinell ffôn y Gwasanaeth Sprayline ar 0870 905 6061.
  • Mae data ar lefelau afonydd o orsafoedd monitro eraill ledled Cymru ar gael ar ein gwefan.
Diweddarwyd ddiwethaf