Gwneud cais i ildio trwydded safle

Cyn i wneud cais

Os nad ydych chi angen trwydded mwyach, rhaid i chi ei hildio. Gallwch hefyd ildio rhan o'ch trwydded, er enghraifft os ydych chi am gael gwared ar gyfleuster neu leihau arwynebedd y tir yn eich trwydded.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon fe gewch ffurflenni cais i ildio trwydded a'r nodiadau canllaw i'ch helpu i gwblhau'r ffurflenni. Rhaid i chi lenwi Rhan A a naill ai E1 neu E2 ac F1.

Nodwch

Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r bocsys priodol fel y gallwch symud ymlaen i'r adran nesaf.

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, gallai'r wybodaeth yn y ddolen Help gyda'ch cais eich helpu. Os hoffech gyngor cyn ymgeisio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Help gyda'ch cais

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.

Diweddarwyd ddiwethaf