Trwyddedau Rheolau Safonol ar gyfer safleoedd sylweddau ymbelydrol

Diweddariad: 31/03/2023 

 

Bydd ein ffioedd am drwyddedau yn aros ar gyfraddau 2022-2023 hyd nes y bydd cynlluniau codi tâl newydd yn cael eu cytuno.   

 

Gweler manylion y ffioedd arfaethedig yr ydym yn bwriadu eu gweithredu ar gyfer 2023-2024, yn amodol ar gymeradwyaeth Weinidogol.  

Cyn i chi wneud cais

Rhestrir isod ein rheolau safonol ar gyfer safleoedd sylweddau ymbleydrol. Mae yna set o reolau ar gyfer pob cyfleuster; canllawiau ar sut i gydymffurfio â’r rheolau, ac asesiad perygl.

Efallai y gosodwn gyfyngiadau ar ba mor agos at safleoedd cadwraeth natur y gallwch gynnal gweithgaredd, neu ddweud a ganiateir allyriadau tarddle penodol.

Mae gwneud cais am drwydded safonol yn arbed amser ac arian i chi: ond cyn ymgeisio, rhaid i chi fod yn ymwybodol o rai nodweddion pwysig:

  • Allwch chi ddim newid y rheolau, a ’does gennych chi ddim hawl apelio yn eu herbyn;
  • Os dymunwch newid eich gweithrediadau fel nad yw trwydded safonol yn berthnasol i’ch gweithgaredd wedi hynny, bydd raid i chi wneud cais i newid eich trwydded yn drwydded bwrpasol;
  • Os bydd eich amgylchedd lleol yn newid ar ôl i chi gael y drwydded (er enghraifft, yn sgil newid diffiniad parth diogelu tarddiad dŵr daear), efallai y bydd angen i i chi uwchraddio’r gweithgaredd i safon ddigonol ar gyfer yr amgylchedd newidiwedig, neu wneud cais i newid eich trwydded yn drwydded bwrpasol
  • Yn achos gollyngiadau trwydded safonol i ddŵr wyneb, bydd y tâl parhau blynyddol yn dechrau o ddyddiad cyhoeddi’r drwydded. Argymhellwn na ddylech wneud cais am drwydded safonol ymhell cyn bod ei hangen, oni dderbyniwch bod rhaid i chi dalu’r taliadau hyn. Nid oes trwyddedau rheolau safonol ar gyfer elifion carthion i’r ddaear/dŵr daear, ar hyn o bryd

Dylech wirio a ydym yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i’r rheolau cyn i chi ymgeisio, er mwyn sicrhau y byddwch chi’n dal i allu cydymffurfio â nhw pan gyhoeddir y newidiadau. Oni allwch, dylech ystyried gwneud cais am drwydded bwrpasol.

Gall trwydded safonol gynnwys rhagor nag un set o reolau, felly gallwch gael un drwydded ar gyfer nifer o gyfleusterau. Gallech, er enghraifft, gael un drwydded safonol i weithredu gorsaf trosglwyddo gwastraff a gwaith gwastraff mwyngloddio.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon cewch enghraifft o drwydded rheolau safonol, yn ogystal â’r ffurflenni cais ar gyfer trwydded rheolau safonol a’r cyfarwyddiadau ar gyfer llenwi’r ffurflenni cais. Rhaid i chi lenwi rhannau A ac F, a llenwi rhan B1.

Help gyda’ch cais

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria 
Caerdydd 
CF24 0TP.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [198.0 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [198.0 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-B1 Cyfleuster safonol (Saesneg yn unig) PDF [171.2 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-B1 Cyfleuster safonol (Saesneg yn unig) PDF [116.5 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) WORD [200.8 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) PDF [62.8 KB]
Trwydded Rheolau Safonol SR2010No1 Ffynonellau ymbelydrol seliedig Dosbarth 5 (Saesneg yn unig) PDF [392.7 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf