Bydd y cais yn cynnwys ffurflen gais safonol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i chwblhau, a gall gynnwys gwybodaeth ychwanegol hefyd fel adroddiad amgylcheddol.

Bydd crynodeb o’r cais i’w weld ar y gofrestr gyhoeddus, a gallwch weld fersiwn bapur ohono yn swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru a nodir yn yr hysbysiad.

Mae’r manylion cryno sydd ar y gofrestr gyhoeddus yn cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd, dyddiad y cais a chrynodeb o’r cynnig.

Yr un wybodaeth sydd yn yr hysbysiad a’r cais.

Os na allwch chi fynd draw i weld y cais yn swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru, gallem bostio copi atoch ynghyd ag unrhyw ddogfennau cysylltiedig eraill.

Nodwch: efallai y byddwn yn codi tâl am hyn. Cysylltwch â ni drwy ffonio’r rhif sydd yn yr hysbysiad, i drafod a oes angen talu.

Diweddarwyd ddiwethaf