Arweinydd Tîm, Goedwig Genedlaethol i Gymru
Dyddiad cau: 29 Awst 2022 | Lleoliad: Hyblyg | Cyflog: £39,700 - £44,522 (Gradd 7)
Math o gontract: Penodiad parhaol i ymgymryd â rôl â therfyn amser tan 31 Awst 2025. Pan ddaw'r swydd i ben bydd deiliad y swydd yn cael ei reoli yn unol â'n gweithdrefnau adleoli.
Patrwm gwaith: 37 awr
Rhif swydd: 203274
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae'r Goedwig Genedlaethol yn rhaglen strategol hirdymor i Gymru dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaglen ambarél lle bydd gwahanol fentrau, partneriaethau a mecanweithiau ariannu yn gweithredu ar wahanol raddfeydd gofodol ac amserol.
Rhaid i'r Goedwig Genedlaethol gefnogi'r gwaith o gyflawni'r canlyniadau canlynol:
- Coetiroedd o ansawdd da, wedi'u cynllunio a'u rheoli'n dda (hanfodol)
- Coetiroedd sy’n hygyrch i bobl (hanfodol)
- Cynnwys cymunedau mewn coetiroedd (hanfodol)
- Coetiroedd cysylltiedig (dymunol)
- Coetiroedd a choed dynamig, amlbwrpas
- Coetiroedd sy’n cefnogi dysgu, ymchwilio ac arloesi (dymunol).
Bydd deiliad y swydd yn arwain tîm o Swyddogion Maes y Goedwig Cenedlaethol a fydd, ochr yn ochr â phartneriaid eraill, yn rhoi cymorth i randdeiliaid er mwyn cyflwyno’r Goedwig Genedlaethol a'i chanlyniadau drwy ymgysylltu, cyngor a chymorth parhaus. Bydd y tîm yn hyrwyddo manteision y Goedwig Genedlaethol ac yn mynd ati i gyfathrebu â thirfeddianwyr a rheolwyr tir ac yn eu cynghori i sicrhau bod cynigion yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU ac yn cyflawni canlyniadau’r Goedwig Genedlaethol.
Y ddau brif ganlyniad i'r tîm fydd darparu 30 o safleoedd ychwanegol yn y Goedwig Genedlaethol a gweithio'n arloesol gydag eraill i annog camau gweithredu ar gyfer coed a choetiroedd drwy gymysgedd o wella coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd erbyn 2026. Bydd hyn yn helpu i ffurfio rhwydwaith cydlynol a chysylltiedig o goetiroedd ledled Cymru i gyflwyno manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol ac yn atebol am arwain y gwaith o ffurfio tîm unedig o Swyddogion Cyswllt y Goedwig Genedlaethol, gan gymell y tîm i sicrhau eu bod yn cyflawni amcanion adrannol a strategol.
Deiliad y swydd fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Swyddogion Cyswllt sy'n ceisio cael cyngor ac arweiniad ynghylch rheoli coetiroedd, creu coetiroedd, ymgysylltu â'r gymuned, a mynediad i'r cyhoedd, felly bydd disgwyl y bydd gan ddeiliad y swydd ddealltwriaeth dechnegol o rôl a chylch gwaith y tîm, ac y bydd yn arwain y gwaith o hyrwyddo'r Goedwig Genedlaethol i Gymru.
Yn ddelfrydol, bydd gennych ddealltwriaeth gyffredinol dda o’r broses o greu coetiroedd a'r hyn sy'n gwneud coetir o ansawdd da, wedi'i gynllunio a'i reoli'n dda. Bydd angen i chi fod yn weithiwr cydweithredol, yn wrandäwr da, yn ddatryswr problemau brwdfrydig ac yn barod i weithio drwy achosion cymhleth.
Bydd angen i chi weithio'n agos gyda thimau sy'n seiliedig ar leoedd, y Tîm Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn y grŵp polisi Rheoli Adnoddau Naturiol a gweithio'n agos gyda Thîm Llywodraeth Cymru sy'n arwain ar Raglen y Goedwig Genedlaethol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddatblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac agwedd hanfodol o’r rôl hon fydd meithrin a chefnogi’r arfer o weithio mewn partneriaeth y tu allan i CNC er mwyn sicrhau canlyniadau’r Goedwig Genedlaethol.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Datblygu a gweithredu cynllun gwaith cynhwysfawr i gyflawni cynllun statws y Goedwig Genedlaethol yng Nghymru, lle bo hynny'n berthnasol i'r tîm.
- Datblygu'r tîm i ddod yn ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddi ar gyfer rheolwyr tir yng Nghymru
- Rheoli a datblygu tîm o Swyddogion Cyswllt y Goedwig Genedlaethol, gan fod yn gwbl atebol am eu perfformiad, eu cyfraniad, eu datblygiad, eu lles a'u hiechyd a'u diogelwch.
- Ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid perthnasol, gan ddatblygu dulliau arloesol o gyflawni. Gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a sefydliadau eraill i sicrhau bod yr opsiynau gorau a mwyaf effeithlon yn cael eu cymryd
- Drwy ddefnyddio gwybodaeth a thystiolaeth arbenigol a thechnegol gymhleth, bydd deiliad y swydd yn datblygu ac yn rheoli llif o brosiectau i gyflawni Canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol.
- Bydd deiliad y swydd yn atebol i Lywodraeth Cymru am yr holl waith monitro a chofnodi perfformiad sy'n gysylltiedig â'r llwybr 3 blynedd hwn. Bydd casglu tystiolaeth ynglŷn ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i 30 o safleoedd newydd y Goedwig Genedlaethol yn allweddol i'r rôl hon a fydd yn bwydo i mewn i fodel cyflenwi'r Goedwig Genedlaethol yng Nghymru yn y dyfodol.
- Datblygu a chynnal perthynas effeithiol a dylanwadol â chwsmeriaid yn fewnol ac yn allanol ar bob lefel.
- Darparu cyngor technegol o fewn cymhwysedd neu gyfeirio at arbenigwyr ym maes ardystio, rheoliadau a thrwyddedu coedwigaeth.
- Cyflawni rôl uwch o ran cydlynu darpariaeth Rhaglen y Goedwig Genedlaethol sy'n ymwneud ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i 30 o safleoedd newydd y Goedwig Genedlaethol dros gyfnod 3 blynedd y peilot hwn, gan sicrhau bod lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid yn cael eu cyflawni drwy welliant parhaus ar lefel strategol.
- Gofynion Ymateb i Ddigwyddiadau: Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Comprehensive experience of communicating effectively with external stakeholders including the public, explaining complex issues, and gaining support by influencing.
- Extensive knowledge and experience of forestry/woodland creation/farming business models/public access/community engagement at all stages of project development from inception to delivery.
- Established and Proven project management skills and the ability to inspire confidence and communicate at all levels in our organisation.
- Substantial previous experience of line management and developing people, with coaching and mentoring skills. Alongside the ability to work well as part of a team and experience of leading dispersed teams of staff.
- Experience of managing contentious issues and community liaison and public engagement activities
- Strong organisational, time management and interpersonal skills.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Dymunol: Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros bobl |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 29 Awst 2022
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Michelle Van-Velzen ar Michelle.van-Velzen@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk / 07815 186496 neu Erika Dawson (Ymholiadau Coedwig Genedlaethol) ar Erika.Dawson@llyw.cymru / 0300 062 5468 neu Chris Botting (Ymholiadau CNC) ar chris.botting@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk / 07813 002174
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.