Rhwydweithiau Natur - galw am geisiadau

Rydyn ni’n chwilio ar hyn o bryd am arbenigwyr cadwraeth a bioamrywiaeth uchelgeisiol a brwdfrydig i gyflwyno amrywiaeth o brosiectau i wella cyflwr cynefinoedd a rhywogaethau Cymru.

Ydych chi’n hyderus, yn frwdfrydig a threfnus, yn gallu chwarae’n dda mewn tîm ac yn meddu ar sgiliau pobl rhagorol?

Ydych chi’n danbaid dros yr amgylchedd?

Oes arbenigedd gyda chi yn yr amgylchedd daearol a sut caiff ei ddefnyddio a’i reoli?

Hoffech chi weithio fel rhan o raglen gyffrous i wella’r amgylchedd o amgylch Cymru?

Os felly, daliwch ati i ddarllen...

Beth yw’r cefndir?

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng natur ac mae angen gweithredu ar fyrder i wrthdroi’r dirywiad yn ein cynefinoedd a’n rhywogaethau yng Nghymru. Rydyn ni’n rhoi rhaglen dair blynedd gyffrous mewn lle yn cwmpasu gwaith bioamrywiaeth a chadwraeth gyda chefnogaeth gan Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni’n chwilio am arbenigwyr amgylcheddol brwdfrydig i gyflwyno cyfres o brosiectau sy’n canolbwyntio ar gynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig. Bydd y swyddi’n canolbwyntio ar waith cadwraeth seiliedig ar le, yn ogystal â phrosiectau cynefin-benodol dros ardaloedd ehangach.

Drwy raglen Rhwydweithiau Natur, bydd y swyddi hyn yn ehangu lefel y gwaith cadwraeth natur rydyn ni’n ei wneud eisoes. Ymunwch â ni i fod yn rhan allweddol o’r gwaith o wella cyflwr ein cynefinoedd a’n rhywogaethau ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i amgylchedd Cymru.

Pa swyddi sydd ar gael?

Fe welwch restr lawn o’r swyddi newydd sydd ar gael isod. Rydym yn croesawu ceisiadau am nifer o swyddi yn ogystal â cheisiadau am secondiadau. Nodwch yn eich ffurflen gais pa swydd neu swyddi mae gyda chi ddiddordeb ynddynt. Os oes diddordeb gyda chi mewn secondiad, trafodwch hyn gyda’ch cyflogwr a chysylltu â CNC cyn gynted â phosib.

Cynghorwyr Rheoli Cynaliadwy Natura 2000: Yn y rolau hyn, sydd i’w cael ar draws Cymru, byddwch yn cyflwyno gwaith rheoli cadwraeth ar amrywiaeth o safleoedd gwarchodedig mewn lle. Rydyn ni’n chwilio am swyddogion i gyflwyno gwaith yn ardaloedd Ynys Môn/Gogledd Cymru, Powys, Casnewydd, De-orllewin Cymru, Sir Fynwy a Thorfaen ac ar SoDdGA/ACA y Berwyn. Byddwch yn gweithio o fewn Tîm Amgylchedd ac yn cydgysylltu â pherchnogion tir a phartneriaid i wella cyflwr safleoedd gwarchodedig.

Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy Natura 2000 – Cynefinoedd arfordirol: Yn y ddwy rôl hon, wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru a De Cymru, byddwch yn cyflwyno gwaith rheoli cadwraeth mewn cynefinoedd clogwyni môr a morfeydd heli. Byddwch yn gweithio gyda pherchnogion tir a phartneriaid i sicrhau buddion bioamrywiaeth yn y safleoedd hyn ac i wella cysylltedd a chydnerthedd.

Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy Natura 2000 – Cynefinoedd glaswelltir: Yn y rôl hon, yn seiliedig yn Ne Cymru, byddwch yn cyflwyno gwaith rheoli cadwraeth mewn cynefinoedd glaswelltir, yn enwedig cynefinoedd o werth uchel o ran britheg y gors. Byddwch yn gweithio gyda pherchnogion tir a phartneriaid i sicrhau buddion bioamrywiaeth yn y safleoedd hyn ac i wella cysylltedd a chydnerthedd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru