Gweilch y pysgod yng Nghoedwig Hafren yn llwyddo deirgwaith yn olynol

Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae cywion gweilch y pysgod wedi deor yn eu nyth yng nghoedwig Hafren ger Llanidloes, Powys.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n edrych ar ôl y safle, yn cadw llygad craff ar hynt a helynt y tri chyw.
Dros y ddwy flynedd diwethaf mae pum cyw wedi cael eu magu’n llwyddiannus yn y nyth, ac fe fydd staff yn parhau i gofnodi ymddygiad bridio’r adar, a chadw llygad ar sut mae pethau’n datblygu.
Meddai Steve Cresswell Reolwr Adnoddau Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae bywyd gwyllt yn rhan bwysig o’n hamgylchedd, treftadaeth a’n diwylliant yng Nghymru.
“Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr fod y bywyd gwyllt gwerthfawr ac amrywiol yng Nghoedwig Hafren yn cael ei warchod.
“Rydym mor falch fod gweilch y pysgod wedi dychwelyd eto eleni, sy’n dangos fod ein hamgylchedd naturiol gwych yn medru cynnal rhywogaeth eiconig fel gwalch y pysgod."
Nid yw’r bridio wedi bod i gyd yn ddidrafferth eleni.
Fe adawodd y fenyw ei set gyntaf o wyau pan ymddangosodd gwryw arall, a wthiodd y gwryw oedd wedi bod yn bridio yn Hafren am y ddwy flynedd diwethaf allan o’r nyth.
Fodd bynnag, fe fridiodd y gwryw newydd gyda’r fenyw a chyn pen dim roedd hi’n ôl ar wyau.
Croesewir ymwelwyr i’r safle, fodd bynnag nid oes yna lawer o fannau i barcio ac mae cyfleusterau’n brin yn yr ardal
Mae yna guddfan gwylio fach ar y safle, ond ni all ymwelwyr fynd o fewn 400 metr i’r nyth er mwyn sicrhau fod yr adar yn cael llonydd.
Yn y cyfamser , mae gweilch y pysgod wedi dychwelyd i Ganolfan Gweilch y Pysgod Dyfi, ger Machynlleth, ac maent wedi cenhedlu dau gyw.
Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn sy’n edrych ar ôl y safle, ac mae ganddynt gamerâu byw a gwirfoddolwyr yno i roi gwybodaeth bellach i bobl am yr adar ysglyfaethus prin hyn, sy’n dod yma bob blwyddyn.