Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei dargedu gan batrolau ychwanegol ar benwythnosau yng nghyrchfannau ymwelwyr gogledd Cymru

Sbwriel wedi cael ei adael yn un o'm safleoedd

Bydd pobl sy’n ymweld â rhai o gyrchfannau mwyaf poblogaidd gogledd Cymru yn gweld mwy o wardeniaid yn patrolio y penwythnos hwn o ganlyniad i gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Bydd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) allan o gwmpas Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Coed y Brenin a Pharc Coedwig Gwydir yn ystod y diwrnodau nesaf mewn ymgais i ffrwyno a rheoli cynnydd mewn achosion o daflu sbwriel, gwersylla anghyfreithlon a gadael gwastraff yn y safleoedd.

Daw’r rhybudd wrth i warchodfeydd natur, Parciau Cenedlaethol, arfordiroedd a safleoedd ymwelwyr awyr agored eraill Cymru gyrraedd brig rhestrau cyrchfannau poblogaidd y DU ar ôl llacio'r cyfyngiadau coronafeirws.

Er nad yw'r rhan fwyaf o ymwelwyr yn gadael unrhyw olion o'u hymweliad, mae rhai safleoedd yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr nad ydynt yn dangos fawr ddim ystyriaeth na pharch at yr ardaloedd maen nhw wedi dod i'w mwynhau.

Mae lloriau coedwigoedd wedi troi’n feysydd parcio a safleoedd gwersylla dros dro, ac mae sbwriel a gwastraff dynol wedi ymestyn i ardaloedd ymhell y tu hwnt i finiau ac ardaloedd toiled dynodedig.

Dywedodd Richard Ninnes, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo, ynghyd â chyfnodau hir o dywydd braf, wedi ysgogi ugeiniau o bobl i roi mannau prydferth enwog Cymru ar frig eu rhestrau o leoedd i fynd iddynt am deithiau undydd ac fel cyrchfannau gwyliau yr haf hwn.
"Mae rhai o'r achosion syfrdanol o orlenwi, parcio anghyfreithlon, gwersylla anghyfreithlon a sbwriel rydyn ni wedi'u gweld ledled Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn frawychus – yn enwedig i'r rheiny sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau y gall pobl fwynhau ein safleoedd yn ddiogel.
"Mae'r math o ymddygiad gwrthgymdeithasol rydyn ni’n ei weld nawr – yn gysylltiedig â'r cynnydd hwn yn nifer yr ymwelwyr – yn broblem eang ledled Cymru ac mae'n gwbl annerbyniol.
"Er ein bod yn falch iawn o groesawu pobl yn ôl i'n safleoedd i ymlacio a chael ail wynt, mae'n rhaid i ni gadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau'r awyr agored a'r cyfrifoldebau sydd gan bob un ohonon ni i warchod natur a pharchu ein cymunedau lleol."

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn yn enwedig wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer yr ymwelwyr, sy’n rhoi pwysau ychwanegol ar y pentref a'r cymunedau sy'n ei hamgylchynu.

Mae traeth Llanddwyn ar yr ynys wedi bod yn gyrchfan boblogaidd ers talwm. Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy'n dewis cael eu gwyliau yn y DU oherwydd y cyfyngiadau sydd mewn grym yn sgil coronafeirws wedi golygu heriau ychwanegol.

Fel rhan o'i ddull rheoledig o ailagor ei safleoedd, ac yn unol â chanllawiau iechyd cyhoeddus Covid-19, mae CNC wedi cyflwyno mesurau yn Niwbwrch sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu'r gymuned rhag peryglon coronafeirws wrth i fwy o bobl fanteisio ar eu rhyddid yn sgil llacio'r cyfyngiadau.

Mae hyn yn cynnwys cyflwyno mwy o gyfleusterau toiled cyn i'r safle ailagor ym mis Gorffennaf a threialu mesurau newydd i leihau tagfeydd traffig. Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno oriau agor dros dro ym mhrif faes parcio'r traeth i leihau'r risg o wersylla anghyfreithlon dros nos ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae pob maes parcio arall yn y warchodfa yn parhau i fod ar agor i breswylwyr ac ymwelwyr bob amser.

Ychwanegodd Richard:

"Ein blaenoriaeth erioed yn Niwbwrch fu sicrhau bod cymunedau lleol yn teimlo'n ddiogel, a bod gan ymwelwyr yr hyder i ymweld â lleoliadau CNC yn y ffordd fwyaf diogel posibl.
"Mae lleoliad gwledig ac amodau lleol Niwbwrch yn golygu y gall rheoli mewnlifiad uchel o ymwelwyr yn aml fod yn arbennig o anodd, yn enwedig mewn amgylchiadau mor anghyffredin.
"Mae'r oriau agor dros dro ym maes parcio traeth Llanddwyn wedi cael eu cyflwyno i leihau'r perygl o wersylla anghyfreithlon dros nos ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi bod yn rhemp ar hyd a lled cyrchfannau awyr agored eraill ledled Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf.
"O ganlyniad i’r cam hwn, ynghyd â'r patrolio rheolaidd ar y safle gan ein wardeiniaid, mae’r digwyddiadau hyn i’w gweld yn llai aml.
"Rydyn ni’n gwybod faint mae'r lle arbennig hwn yn ei olygu i drigolion a bod rhai o'r mesurau hyn wedi achosi rhywfaint o rwystredigaeth ymysg lleiafrif o bobl yn y gymuned. Dyna pam ein bod wedi cymryd camau penodol i sicrhau y gallan nhw gael mynediad i'r traeth cyn ac ar ôl i'r rhwystr ddod i lawr.
"Rydyn ni’n gobeithio gallu ailagor prif faes parcio Traeth Llanddwyn yn llawn ym mis Medi os yw'r amodau’n iawn ac yn unol ag unrhyw gyfyngiadau coronafeirws sydd mewn grym ar draws Cymru."
"Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio gyda'r gymuned a'n partneriaid i sicrhau y gall trigolion ac ymwelwyr barhau i fwynhau ein safleoedd mewn ffordd mor ddiogel â phosibl yn ystod y cyfnod heriol hwn.