Arestiadau ar safle gwastraff anghyfreithlon tybiedig
Arestiwyd dau o bobl ar amheuaeth o gadw safle gwastraff anghyfreithlon yn Sir y Fflint.
Yn ystod cyrch bore heddiw (Llun 23 Rhagfyr), canfu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, â chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru, dystiolaeth am drafod gwastraff ar raddfa fawr.
Defnyddir hyn os eir i gyfraith yn erbyn gweithredwyr y cwmni yr amheuir ei fod yn gweithredu heb drwydded amgylcheddol.
Rhyddhawyd y ddau unigolyn ar fechnïaeth, wrth i ymholiadau barhau.
Dywedodd Tim Jones o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn cydweithio’n agos â Heddlu Gogledd Cymru er mwyn atal gweithgareddau gwastraff troseddol ledled y gogledd.
“Mae’r math hwn o ddrwgweithredu’n bygwth yr amgylchedd, a gallai beryglu cymunedau lleol, yn ogystal â thanseilio busnesau gwastraff cyfreithlon.
“Bydd cyrchoedd o’r math hwn yn datgan yn eglur na oddefir troseddau gwastraff.”
Mae troseddau gwastraff yn broblem ddifrifol, gan gostio miliynau o bunnau’r flwyddyn i fusnesau, tirfeddianwyr a threthdalwyr, ac achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd, iechyd dynol a bywyd gwyllt.
Dylai unrhyw un sy’n amau bod troseddau gwastraff yn digwydd yn eu cymdogaeth nhw roi galwad i Cyfoeth Naturiol Cymru ar y llinell frys, 0800 807060.