Gwell ansawdd dŵr yn helpu diogelu’r fisglen berlog dŵr croyw

Mae ansawdd dŵr mewn afon yn Eryri wedi gwella, sy’n dangos bod prosiect gwerth £3.5m i warchod misglod yn cael effaith positif.
Yn ystod y can mlynedd diwethaf mae niferoedd misglod perlog dŵr croyw wedi gostwng yn ddifrifol.
Mae samplau dŵr yn dangos bod yna fwy o ocsigen yn yr afon a llai o silt.
Erbyn hyn, y rhain yw’r molysgiaid sydd yn y perygl mwyaf drwy’r byd, ac o ganlyniad mae deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol cryf iawn yn eu gwarchod.
Mewn ymgais i ddiogelu dyfodol y misglod, mae prosiect o’r enw “Perlau mewn Perygl,” sef prosiect cadwraeth Natur LIFE+,sydd wedi dod i fodolaeth mewn 21 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar hyd a lled y y Deyrnas Unedig
Elain Gwilym, swyddog prosiect CNC, yw arweinydd y prosiect, yn Afon Eden ger Trawsfynydd.
Meddai: “Mae ansawdd dŵr da yn hanfodol i’r misglod, a all fyw ymhell dros 100 mlynedd.
“Mae’r ffigyrau’n dangos bod y prosiect yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
“Mae ein samplu yn dangos bod lefel yr ocsigen yn y graean lle mae ei angen ar gyfer y misglod yn gwella.
“Mae hyn yn dangos bod yr afon yn lanach gyda llai o silt a mwy o ocsigen ac yn sgil hyn yn gwella’r cynefin ar gyfer misglod a physgod ifanc.”
Cafodd misglod yr afon hon eu darganfod yn 1997.
Ar y pryd, roedd yn gartref i tua 1300 o fisglod, ond erbyn 2011 roedd y nifer wedi gostwng i rhwng 500 a 600.
Ychwanegodd Elain Gwilym: “Yn rhyfeddol, gall un fisglen lawndwf hidlo 50 litr o ddŵr bob diwrnod, sef oddeutu’r un faint o ddŵr ag y byddech chi’n ei ddefnyddio wrth gael cawod.”
“Wrth hidlo’r dŵr, mae’r misglod yn tynnu gronynnau o’r dŵr i gael bwyd ac yn gwella ansawdd y dŵr ac ecosystem yr afon er budd rhywogaethau eraill.”
“Yn y pen draw mae gwaith i warchod misglod perlog dŵr croyw o fudd i ecosystem yr afon i gyd.”
Rhan hanfodol o’r prosiect yw gweithio gyda’r gymuned a thirfeddianwyr.
Mae hyn yn cynnwys “Perlau yn yr Ystafell Ddosbarth”, sef rhaglen addysgol ar gyfer plant ysgol lleol sy’n esbonio cylch bywyd anarferol y misglod, eu pwysigrwydd i’n hanes diwylliannol, eu dirywiad a’u rôl mewn ecosystemau afonydd.
Gwyddom fod misglod perlog dŵr croyw wedi byw yn afonydd Cymru ers cyfnod y Rhufeiniaid.
Credir mai perlau yw un o’r rhesymau pam y goresgynnodd Iŵl Cesar Prydain yn 55CC, ac mae perlau wedi bod yn rhan o deyrndlysau coroni’r Teulu Brenhinol hyd yn oed.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Perlau mewn Perygl https://www.pearlsinperil.scot/ neu dilynwch ni ar twitter @MoThe Mussel.