Hwb i boblogaethau pysgod Afon Tawe wrth i lwybr pysgod agor safleoedd silio newydd

Mae pysgod eiconig fel yr eog a’r siwin wedi cael cryn hwb, oherwydd yn awr gallant gyrraedd y safleoedd silio gorau ar ôl i lwybr pysgod gael ei atgyweirio.
Cafodd y gwaith £58,000 ar lwybr pysgod Afon Tawe ym Mhanteg ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gyda help gan y Canal & Rivers Trust.
Mae’r gored, sy’n eiddo i’r ymddiriedolaeth hon, yn strwythur hanesyddol sy’n bwydo dŵr i rannau uchaf Camlas Abertawe. Mae gan y gored lwybr pysgod eisoes; ond gan fod gwely’r afon wedi cael ei erydu ymhellach i lawr, roedd y llwybr pysgod hwn wedi mynd fwy neu lai yn amhosibl ei ddefnyddio.
Yn ystod y prosiect cafodd 380 o dunelli o gerrig bloc eu cludo i lawr yr afon, gan fynd dros dorlan 8m o uchder, prif garthffos Dŵr Cymru/Welsh Water a chwlfer cyflenwad dŵr.
Dyma’r eilwaith i welliannau gael eu gwneud i’r gored ers iddi gael ei hadeiladu yn y 1800au. Defnyddiodd y gwelliant cyntaf goncrid a dur i foderneiddio’r gored ac i osod y llwybr pysgod cyntaf yn y 1980au.
Meddai Dave Charlesworth, Rheolwr Prosiect Pysgodfeydd Cynaliadwy:
“Mae’r eog a’r siwin yn rhywogaethau eiconig yng Nghymru, ac yn rhan bwysig o iechyd ein hafonydd. Maen nhw hefyd yn werth miliynau i economi Cymru.
“Ein nod yw sicrhau bod ein hafonydd yn y cyflwr gorau posibl, fel y gallant gynnal poblogaethau iach o bysgod.
“Mae’r strwythur ym Mhanteg wedi bod yn rhwystr i bysgod ymfudol ar Afon Tawe ers blynyddoedd lawer. Yn awr, mae hi’n llawer haws i’r pysgod gyrraedd eu cynefinoedd silio enfawr.”
Cafodd y prosiect ei ariannu’n rhannol gan y rhaglen Ewropeaidd “Salmon for Tomorrow” a Llywodraeth Cymru.