Gorchymyn dal a rhyddhau ar gyfer pysgodfa rhwydi gafl

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi hysbysu'r wyth pysgotwr sy'n defnyddio'r dull traddodiadol o bysgota â rhwydi gafl yn Black Rock bod yn rhaid iddyn nhw ddychwelyd pob eog maen nhw'n ei ddal i'r afon yn fyw.

O’r blaen, roedd y trwyddedau ar gyfer pysgotwyr y safle yn Sir Fynwy yn caniatáu iddynt ddal hyd at 15 eog rhwng mis Mehefin a mis Awst. Ond yn gynharach eleni, daeth trefniant gorfodol ar gyfer dal a rhyddhau eogiaid i rym ar holl afonydd Cymru fel rhan o ystod o fesurau sydd â’r bwriad o ddiogelu stociau eogiaid sy'n dirywio.

Ers hynny, mae CNC wedi cynnal asesiad i weld a yw'r gweithgarwch yn debygol o gael effaith negyddol ar safleoedd gwarchodedig fel Safle Morol Ewropeaidd Aber Afon Hafren ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Wysg a Gwy lle mae eogiaid yn nodwedd ddynodedig.

Roedd hyn yn cynnwys defnyddio data ac arbenigedd CNC ei hun, yn ogystal ag ymgynghori â sefydliadau eraill fel Natural England.

Daeth yr asesiad i'r casgliad mai dim ond ar gyfer pysgota dal a rhyddhau y dylid rhoi'r trwyddedau er mwyn rhoi'r cyfle gorau posibl i'r rhywogaeth oroesi a pharhau i fridio.

Dyma a ddywedodd Jon Goldsworthy, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae'r traddodiad o bysgota â rhwydi gafl yn Black Rock wedi cael ei basio i lawr drwy genedlaethau ac mae'n rhan bwysig o hanes a threftadaeth yr ardal.
"Nid ydym am atal pysgotwyr rhag defnyddio rhwydi gafl yn Black Rock. Fodd bynnag, mae angen iddynt newid eu harferion, fel y mae rhwydwyr a physgotwyr eraill wedi'i wneud ledled Cymru.
"Er ein bod yn cydnabod mai dim ond nifer fach iawn o bysgod sy'n cael eu dal gan y pysgotwyr bob blwyddyn, mae pob pysgodyn sy’n silio yn bwysig a gall hyd yn oed ychwanegiadau cymharol fach i'r stoc silio wneud gwahaniaeth mawr o ran gwella niferoedd."

Dechreuodd CNC drafodaethau ynghylch pysgota dal a rhyddhau gyda'r rhwydwyr y llynedd ac mae'n ymwybodol bod pysgodfa rhwydi gafl draddodiadol yn Lloegr eisoes yn gweithredu yn ôl trefniant dal a rhyddhau.

Meddai Jon:

"Rydym yn parhau i drafod y manylion â'r pysgotwyr o ran dychwelyd eu dalfa ac yn gobeithio dod o hyd i ffordd o sicrhau dyfodol y bysgodfa, gan ddiogelu cynaliadwyedd stociau eogiaid ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae gan CNC rwymedigaeth gyfreithiol i asesu a rhoi trwyddedau ar gyfer pysgodfeydd hyfyw, er gwaethaf y cyfyngiadau Covid-19 sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae disgwyl i'r rhai sydd wedi derbyn trwydded ddal i ddilyn cyngor diweddaraf y Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol.