Wythnos hinsawdd - edrych ar ddyfodol perygl llifogydd yng Nghymru
Yn rhan o Wythnos yr Hinsawdd, mae Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, yn edrych ar ddyfodol perygl llifogydd yng Nghymru, a sut y gall bod ag arddull ehangach yn y dyfodol leihau’r bygythiad i bobl a’r amgylchedd.
Y gaeaf hwn, gwelodd Gymru ddwy o’r stormydd mwyaf difrodus i daro ein glannau ers degawdau.
Gorlifwyd cannoedd o gartrefi a busnesau; effeithiwyd ar filoedd o bobl; boddwyd cannoedd o erw o dir amaeth; torrwyd cysylltiadau trafnidiaeth, ac achoswyd gwerth miliynau o bunnoedd o ddifrod.
Bydd angen misoedd lawer i ymadfer wedi’r braw, y tor-calon, a’r dinistr a achoswyd ganddynt.
Bu i’n hadroddiad ynghylch y llifogydd glan môr, a gomisiynwyd gan y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies AC, ddangos yr achoswyd gwerth rhagor nag £11 miliwn o ddifrod i arfordir Cymru, £8.1 miliwn ohono’n ddifrod i amddiffynfeydd llifogydd y glannau.
Gwelsom lifogydd yn 2012, hefyd: y tro hwnnw ar afonydd, gan daro cymunedau yn Rhuthun, Llanelwy, a chyffiniau Aberystwyth.
Bu llifogydd eang yn Lloegr, hefyd, ar wastadeddau Gwlad yr Haf, yn Nyffryn Tafwys, a mannau eraill.
Rydym yn gweld patrymau tywydd mwy eithafol: ac er na allwn briodoli unrhyw ddigwyddiad unigol i newid yn yr hinsawdd, y mae’r mathau yma o ddigwyddiadau’n union yr hyn a ddisgwyliem gan hinsawdd sy’n mynd yn gynhesach. Rhagor o stormydd, glawiad dwysach, a llifogydd amlach a mwy difrifol.
Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac ymhlith ein partneriaid, rydym eisoes yn cynllunio ar gyfer y cynnydd perygl hwn.
Darllennwch ragor ar safle we Wales Online.