Lansio ymgynghoriad i warchod cytrefi pwysig o adar
Mae ymgynghoriad yn cael ei lansio heddiw (Dydd Gwener, 31 Ionawr) ar gynlluniau i warchod adar môr yn rhai o ardaloedd cadwraeth morol ac arfordirol pwysicaf Cymru.
Gallai’r newidiadau arfaethedig ymestyn tair Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) yng Nglannau Aberdaron ac Ynys Enlli, Ynysoedd Sgogwm, Sgomer, a Gwales.
Yn yr Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig cyfredol dim ond safleoedd nythu rhywogaethau megis adar drycin manaw, palod a huganod sy’n cael eu gwarchod.
Gallai’r cynigion hyn olygu bod yr ardaloedd gwarchodedig yn cael eu hymestyn i’r môr o amgylch yr ardaloedd nythu i’r mannau lle bydd yr adar môr yn ymgynnull yn ystod y tymor bridio.
Ceir cynigion hefyd i ddiweddaru’r rhestrau o adar dan warchodaeth yn y safleoedd hyn.
Bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, yn rhedeg o 31 Ionawr hyd at 25 Ebrill 2014.
Nid yn unig mae’r adar yn yr ardaloedd hyn yn rhywogaethau pwysig o safbwynt bywyd gwyllt ac yn cael eu gwarchod i raddfa fawr, maent yn denu pobl o bob rhan o’r byd i ddod i dreulio amser yng Nghymru.
Mae gan rai safleoedd godau ymddygiad gwirfoddol a deddfau lleol, a physgota lleol a gweithgareddau hamdden sy’n gweithio’n dda i ddiogelu’r poblogaethau o adar môr.
Meddai Ceri Davies, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’r safleoedd gwarchodedig hyn yn cynrychioli rhai o ardaloedd nythu pwysicaf adar môr yng Nghymru.
“Mae’r adar, y tirweddau a’r morweddau hardd, a’r ynysoedd lle maent yn byw yn helpu i ddenu miloedd o ymwelwyr yma bob blwyddyn.
“Mae’n bwysig ein bod yn gwarchod eu cynefinoedd gan fod y rhain, ochr yn ochr â’r diwydiannau pysgota a hamdden, yn bwysig i fusnesau arfordirol ac yn gwella ansawdd bywyd y bobl leol.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi trefnu digwyddiadau galw heibio, sy’n agored i bawb, i drafod yr ymgynghoriad, neu i gael mwy o wybodaeth, a bydd y rhain yn cael eu cynnal ar:
- Dydd Llun 17 Chwefror yng Nghlwb Hwylio Aberdaron, Gwynedd (1:30 pm-8:00 pm)
- Dydd Mercher 19 Chwefror yn Neuadd y Ddinas, Tŷ Ddewi, Sir Benfro (1:30 pm-8:00 pm)
- Dydd Iau 20 Chwefror yn Neuadd y Pentref, Marloes, Sir Benfro (1:30 pm-8:00 pm)