Ymgynghori ar drwydded gwastraff
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwahodd pobl i gyflwyno’u barn ar gais am drwydded amgylcheddol i reoli gwastraff yn ddiogel o dwll turio i chwilio am olew a nwy yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cafodd UK Methane Limited ganiatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol fis Mawrth 2015 i gynnal gwaith drilio arbrofol ar Foel Fynyddau, Pont-rhyd-y-fen. Mae hynny ar dir sy'n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu bwriad y cwmni’n drylwyr er mwyn sicrhau y gellir symud gwastraff o'r gwaith drilio, megis cerrig a phridd, oddi ar y safle heb niweidio cymunedau nac amgylchedd yr ardal.
Nid yw’r cais yn gofyn am ganiatâd i ffracio nac i adfer unrhyw olew na nwy.
Meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Dim ond os byddwn ni’n fodlon fod cynlluniau manwl y cwmni’n dangos yn glir y bydd yn gallu gwneud y gwaith yn ddiogel neu niweidio amgylchedd na chymunedau’r ardal y byddwn ni'n caniatáu trwydded amgylcheddol iddo".
Cyn penderfynu, byddwn yn asesu cynlluniau UK Methane Limited yn drylwyr.
“Byddwn yn ymgynghori â sefydliadau arbenigol megis yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud yn siŵr ein bod wedi cael yr holl wybodaeth berthnasol i’n helpu i benderfynu a ddylid caniatau Trwydded Amgylcheddol ai peidio.
Rydym hefyd yn gwahodd pobl yr ardal i gyflwyno sylwadau ac unrhyw wybodaeth berthnasol y dylen ni ei hystyried fel rhan o'n hasesiad. .
“Mae manylion sut y gall pobl ddweud eu dweud ar gael ar ein gwefan neu drwy ffonio 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 8am-6pm).”
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan ddydd Sul 11 Hydref. Gellir gofyn am gopi electronig o’r cais o from enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Mae’n rhaid i weithredwyr olew a nwy gael hawlenni, trwyddedau a chaniatadau gan nifer o sefydliadau cyn cychwyn ar waith archwilio.
Bydd natur y rhain yn dibynnu ar ba waith y bydd yr ymgeisydd yn bwriadu ei wneud, ar ddaeareg yr ardal ac ar ei nodweddion amgylcheddol.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y cyfrifoldebau hyn ac olew a nwy ar dir ar gael o www.cyfoethnaturiol.cymru/onshoreoilandgas.