Prentisiaethau digidol i bobl ifanc Gogledd Cymru
Gall pobl ifanc sy’n ymddiddori mewn technoleg ddigidol wneud cais am gynllun prentisiaeth dwy flynedd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae cynllun Cyfoeth, a sefydlwyd gan CNC bedair blynedd yn ôl, yn cynnig cyfle i rai sy’n gadael y coleg a’r chweched dosbarth weithio ac ennill cymwysterau TG (Technoleg Gwybodaeth) gwerthfawr yr un pryd.
Bydd y prentisiaid yn ymwneud ag ystod eang o dasgau sy’n hanfodol i’r sefydliad Cymru gyfan hwn.
Gall hyn olygu unrhyw beth, o raglennu cyfrifiaduron i sefydlu rhwydweithiau mewn swyddfeydd.
Meddai Mark Diggle, Rheolwr Cynllun Prentisiaeth TG, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn chwilio am brentisiaid i ddod i weithio yn ein swyddfa ym Mangor.
“Byddant yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd a gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol, ac ar yr un pryd byddant yn ennill cymhwyster Microsoft.
Mae CNC wedi cymryd 16 o bobl i weithio yn yr adran TG ers i gynllun prentisiaeth Cyfoeth ddechrau yn 2013:
“Mae hwn yn gyfle rhagorol i bobl ifanc sy’n ystyried dilyn gyrfa yn y sector aruthrol bwysig hon sy’n tyfu yng Nghymru.
“Mae cynllun prentisiaeth Cyfoeth wedi bod yn gymaint o lwyddiant ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cynnig cyfleoedd o’r fath sy’n helpu i greu gweithlu mwy medrus yng Nghymru.
Eleni mae’r brentisiaeth wedi cael ei hymestyn i gynnwys Prentisiaeth TG Masnachol a fydd yn cyfuno Diploma Lefel 3 BTEC mewn Gweinyddiaeth Busnes a chymhwyster CIPS proffesiynol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Medi 2017.