Prentisiaeth amgylcheddol i’r ifanc

Mae pobl ifanc sydd â diddordeb yn yr amgylchedd yng Nghymru yn cael eu hannog i geisio am gynllun prentisiaeth.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnig cyfle i 10 o fyfyrwyr coleg a disgyblion chweched dosbarth sydd wedi gadael yr ysgol ymuno â’i gynllun llwyddiannus, Cyfoeth.
Maen nhw’n chwilio am bobl ifanc sy’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored i ddysgu amrywiaeth eang o dasgau.
Mae’r cynllun yn cynnig profiad â thâl rhwng blwyddyn a thair blynedd mewn meysydd fel cynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd ac ymateb i ddigwyddiadau, creu ac adfer cynefinoedd, cynaeafu coed a hamddena yn y coetir.
Yn ystod y brentisiaeth bydd y bobl ifanc yn gallu gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant, yn ogystal â chael cyfle i sicrhau gwaith parhaol o fewn y sefydliad.
Mae’r cyfnod ar gyfer ymgeisio ar agor tan 14 Awst 2015.
Mae’r cynllun prentisiaeth Cyfoeth yn barod wedi rhoi cyfle i naw o bobl weithio yn nhîm Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) y sefydliad.
Meddai Hugh Jones, Pennaeth Gweithrediadau Coedwigoedd, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae ein prentisiaid cyntaf wedi llwyddo i ennill eu cymwysterau.
“Fe fuon nhw’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr TGCh proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau, ac erbyn hyn maen nhw wedi’u penodi mewn swyddi parhaol gyda’r sefydliad.
“Gan fod y cynllun bellach wedi’i ymestyn i gynnwys prentisiaethau mewn cadwraeth a choedwigaeth, mae yna fwy fyth o gyfle i bobl ifanc ddysgu proffesiwn i greu gweithlu mwy medrus i Gymru.”