Rhoi Trwydded Amgylcheddol i Sonorex Oil and Gas Limited
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi trwydded amgylcheddol i Sonorex Oil and Gas Limited er mwyn caniatáu iddynt reoli gwastraff echdynnol o dwll turio archwiliol a fydd yn chwilio am olew a nwy ger pentref Trefonnen, Casnewydd.
Bydd y drwydded yn sicrhau bod gwastraff fel creigiau, toriadau dril a phridd, a gynhyrchir o ganlyniad i’r gwaith drilio, yn cael ei gasglu a/neu ei waredu’n ddiogel. Nid yw’n caniatáu unrhyw dechnegau fel hollti hydrolig (‘ffracio’) nac yn rhoi caniatâd i echdynnu olew neu nwy. Ni ddylai’r gwaith drilio a phrofi, na’r gwaith i adfer y tir, bara mwy na chwe mis.
Meddai llefarydd o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Cyn penderfynu, fe gynhalion ni asesiad trylwyr ar y gweithgaredd arfaethedig, gan ymgynghori â sefydliadau arbenigol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
“Dim ond pan fyddwn yn fodlon y bydd modd i’r cwmni weithredu’n ddiogel, heb effeithio ar yr amgylchedd neu’r cymunedau gerllaw, y byddwn yn rhoi trwydded amgylcheddol.
“Ar ôl i’r drilio ddechrau, bydd ein swyddogion yn rheoli ac yn monitro’r safle’n ofalus i sicrhau ei fod yn gweithredu o fewn yr amodau a geir yn y drwydded, fel y gellir diogelu pobl a’r amgylchedd.”
Mae cwmnïau olew a nwy angen trwyddedau a chaniatâd gan nifer o sefydliadau cyn y gallant roi unrhyw weithgareddau archwiliol ar waith. Bydd natur y rhain yn dibynnu ar y gweithgareddau arfaethedig, daeareg y safle a nodweddion yr amgylchedd lleol. Gellir cael mwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o ganiatâd ar http://www.naturalresources.wales/onshoreoilandgas.