Camera byw Coedwig Hafren yn dangos gweilch heb adael y cartref

Mae camera byw newydd o nyth gweilch Coedwig Hafren yn rhoi cyfle i bobl gadw mewn cysylltiad â byd natur heb adael eu cartref.

Gyda'r cyfyngiad coronafeirws yn cael ei ymestyn am dair wythnos, mae'r camera byw newydd sydd wedi ei osod gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnig golwg agos i bobl ar un o'r adar mwyaf prin yn y DU.

Mae'r gweilch wedi bod yn nythu yng Nghoedwig Hafren, ger Llanidloes ers 2014 ac wedi cael eu monitro'n agos i gofnodi eu symudiadau a'u hymddygiad bridio.

Dywedodd Rhys Jenkins, Uwch Swyddog Rheoli Tir: “Mae'r camera byw yn ffordd wych i oedolion a phlant fwynhau bywyd gwyllt arbennig Canolbarth Cymru heb adael y cartref.

“Mae hyn yn bwysig iawn ar adeg pan fo'r mesurau i fynd i'r afael â coronafeirws yn golygu nad yw pobl yn gallu mynd allan a'u mwynhau'n uniongyrchol.
“Mae llawer o weithgarwch wedi bod ar y safle ers i'r gweilch ddychwelyd i'r DU o'u cartref gaeaf yng ngorllewin Affrica.
“Rydym wedi cael pâr eithaf sefydlog ar y safle ers rhai blynyddoedd, ond mae'n edrych fel bod gwalch benywaidd arall wedi cymryd lle'r un preswyl blaenorol.
“Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar eu cynnydd ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr haf nes iddynt ddychwelyd i Affrica ym mis Medi.”

Mae’r camera byw ar gael am ddim trwy ddefnyddio’r ddolen hon: https://bit.ly/GweilchClywedogOspreys.

Mae CNC yn gweithio ym mhob rhan o'r sefydliad i addasu arferion gwaith dros dro a sicrhau bod gwasanaethau yn parhau gyda chyn lleied â phosibl o amhariad.

Er mwyn helpu i arafu lledaeniad y coronafeirws, mae'r rhan fwyaf o staff yn gweithio gartref am y tro. Fodd bynnag, mae gweithwyr allweddol a gweithwyr hanfodol yn dal i gyflawni eu gwaith allweddol.