Arhoswch tra bod ein crynodeb o rybuddion llifogydd yn llwytho.
Disgwyl i law trwm effeithio gogledd Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bobl barhau i fod yn wyliadwrus a pharatoi ar gyfer llifogydd gan fod disgwyl glaw trwm a chyson, yn enwedig dros Eryri, heddiw a bore fory. (14 & 15 Tachwedd).
Ar hyn o bryd, mae yna beth ansicrwydd ynglŷn â phatrwm glaw, ond mae CNC yn cadw llygad barcud ar dalgylchoedd Dyfi, Elwy, Conwy ac Efyrnwy yn arbennig.
Yn y canolbarth, mae pryder hefyd am dalgylchoedd yr Hafren a’r Fyrnwy.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi Hysbysiadau a Rhybuddion Llifogydd pan fydd afonydd yn cyrraedd lefel arbennig – ar y funud (hanner dydd dydd Sadwrn 14 Tachwedd) mae yna bedwar Hysbysiad Llifogydd ar yr afon Elwy, a chynghorir pobl i fod yn hynod wyliadwrus yn y dalgylch yma.
Meddai Scott Squires o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn gofyn i bobl fod yn ofalus iawn a pharatoi ar gyfer llifogydd.
“Bydd patrwm y glaw dros y 36 awr nesaf yn allweddol i’n gwaith paratoi ac i’r perygl o lifogydd.
“Mae ein staff allan yn gweithio, yn paratoi ar gyfer llifogydd. Mae hyn yn cynnwys codi amddiffynfeydd dros dro yn Llanelwy a Llanrwst.”
Cynghorir pobl i gadw golwg ar adroddiadau’r tywydd ac ar y newyddion lleol i gael manylion am unrhyw broblemau yn eu hardal.
Mae yna hefyd risg o lifogydd sylweddol ar dir amaethyddol.
Caiff hysbysiadau a rhybuddion llifogydd eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud, a gallwch ddod o hyd iddynt ar ein mapiau rhybuddion llifogydd.
Gallwch gael y manylion a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfrif twitter Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd, sef: @natreswales
Neu ffoniwch Floodline: 0345 988 1188.
Ymhellach, caiff ein map lefelau afonydd ei diweddaru â gwybodaeth am lefelau afonydd sawl gwaith y dydd, ac mae’n cynnwys gwybodaeth am lefelau isaf, arferol ac uchaf afonydd mewn ardaloedd arbennig.