Cam diweddara’ cyfrifiad adar môr Cymru wedi’i gwblhau

Mae’r cam diweddaraf yn ein hymdrech enfawr i gyfrif yr holl adar môr sydd i’w cael ar hyd arfordir Cymru newydd ei gwblhau.
Yn ystod y mis diwethaf, bu cyfrifiad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn canolbwyntio ar arfordir Ynys Môn a Phen Llŷn.
Dechreuodd y cyfrifiad adar môr y llynedd. Bydd yn cael ei gwblhau’r flwyddyn nesaf pan gaiff rhannau olaf y jig-so eu rhoi yn eu lle ar ôl cyfri adar môr mewn ardaloedd yn Ne Cymru.
Bydd yr wybodaeth yn cyfrannu at y cyfrifiad diweddaraf o adar môr sy’n bridio ym Mhrydain ac Iwerddon – rhaglen a roddwyd ar waith 45 mlynedd yn ôl er mwyn pennu tueddiadau hirdymor ym mhoblogaethau adar môr.
Mae cael tystiolaeth fanwl gywir yn golygu y gall CNC gynnig cyngor o’r radd flaenaf ynghylch amgylchedd y môr a materion a allai effeithio ar yr amgylchedd hwnnw.
Meddai Matty Murphy, Uwch-swyddog Arforol CNC: “Mae gwarchod bywyd gwyllt yn gwbl sylfaenol i’n hamcanion fel sefydliad.
“Mae casglu’r wybodaeth hon yn bwysig dros ben ar gyfer asesu tueddiadau hirdymor yn ein hadar môr a’r fioamrywiaeth y maen nhw’n dibynnu arni.
“Eisoes eleni rydym wedi cofnodi newidiadau lleol, gan gynnwys diflaniad nythfa o 500 o wylanod coesddu ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn, ynghyd â chynnydd o gant y cant, o 2,500 i 5,000, yn niferoedd gwylogod ar Ynys Badrig, sef ynys oddi ar ogledd Ynys Môn."
Er y flwyddyn 2000, mae niferoedd carfilod wedi cynyddu, gyda gwylogod, llursod a phalod wedi cynyddu 69 y cant, 80 y cant a 62 y cant yn ôl eu trefn.
Ond, mae rhai o adar môr mwyaf eiconig Cymru wedi dirywio: mulfrain gwyrdd 24 y cant, adar drycin y graig 16 y cant, gwylanod cefnddu lleiaf 35 y cant a gwylanod coesddu 41 y cant.
Caiff y cyfrifiad ei gwblhau mewn modd mwy effeithlon y dyddiau hyn trwy ddefnyddio ‘Pedryn’, cwch arolygu CNC, sy’n caniatáu i’n staff monitro ymdrin â llawer mwy o’r arfordir mewn un diwrnod ac ymateb yn ddi-oed i newidiadau yn y tywydd.
Dros y blynyddoedd, mae’r rhaglen hefyd wedi dibynnu ar help gwirfoddolwyr, gan gynnwys staff RSPB Cymru ac awdurdodau lleol.
Caiff yr wybodaeth am adar môr Prydain ac Iwerddon, a gesglir gan amryw sefydliadau a grwpiau, ei choladu gan y Cydbwyllgor Gwarchod Natur (JNCC) ac mae ar gael ar eu cronfa ddata‘Seabird Monitoring Programme.
Cafodd y cyfrifiad cyntaf, Operation Seafarer, ei gynnal yn 1969-1970, yr ail The Seabird Colony Register yn 1985-1988, a’r trydydd Seabird rhwng 1998-2000. Dechreuodd y Seabird Count presennol y llynedd a bydd yn cael ei gwblhau’r flwyddyn nesaf.