Ail-leoli cylch boncyff Llynfi yn dilyn achosion o ymddygiad anghymdeithasol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwneud penderfyniad i symud y cylch boncyffion yng Nghoetir Ysbryd Llynfi er mwyn atal y camddefnyddio parhaus o’r safle.
Daw’r penderfyniad i symud y cylch ymhellach fewn i’r coetir ar ôl nifer o achosion o ymddygiad anghymdeithasol gyda’r digwyddiad diweddaraf yn arwain at alw ar yr heddlu.
Daeth y syniad i gynnwys cylch oddi wrth blant lleol gyda’r gobaith y byddai’n cael ei ddefnyddio gan ysgolion a grwpiau cymunedol.
Mae’r cylch boncyffion yn darparu lle ar gyfer y grwpiau hyn i gymryd rhan mewn adrodd straeon, coedwriaeth a gweithgareddau coedwig eraill.
Dywedodd Geminie Drinkwater, swyddog prosiect CNC:
“Mae CNC yn ymrwymedig i ddarparu mannau diogel deniadol a phleserus o fewn natur ac rydym yn hynod o siomedig i orfod cymryd y camau hyn.
“Mae ymddygiad anghymdeithasol yn rhywbeth gall yn anffodus ddinistrio gwaith ac ymdrech caled gwirfoddolwyr gofalgar sydd am wneud newidiadau cadarnhaol yn eu cymuned.
“Bu Prosiect Coetir Ysbryd Llynfi ddim ond yn bosibl drwy syniadau a chamau hael pobl leol a byddem yn annog pawb yn y gymuned i wneud yn siŵr bod y safle hwn, ymysg pethau eraill yn y cwm, yn cael eu cadw a’u gwella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. “
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i unrhyw un sy’n gweld unrhyw achosion o ymddygiad anghymdeithasol ar y safle i gysylltu â’r Heddlu drwy ffonio 101, neu mewn achosion brys 999.