Ymgyrch fawr i daclo’r gwiddonyn pinwydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgymryd â’r rhaglen fwyaf yn y DU i daclo pla sy’n byw ar gonwydd mewn ffordd ecogyfeillgar.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwistrellu pryfed genwair microsgopig, a elwir yn nematodau, ar fonion conwydd ac o’u hamgylch er mwyn ceisio taclo’r gwiddonyn pinwydd.
Fe fydd y gwaith yn cychwyn yng Nghoedwig Tywi, ger Llanymddyfri ym Mhowys, cyn symud tua’r gogledd i Goedwig Hafren, a dod i ben yng Nghoedwig Clocaenog yn Sir Ddinbych.
Bydd cyfanswm yr arwynebedd a gaiff ei drin bron yn 500 acer – ardal yr un maint â 276 o gaeau pêl-droed.
Disgwylir i’r rhaglen gael ei chwblhau wythnos nesaf.
Meddai Neil Muir, Rheolwr Coedwigoedd yn CNC: “Gall gwiddon pinwydd gael effaith andwyol ar goed ifanc.
“Rydym yn ceisio symud mwyfwy tuag at y dull rheoli biolegol hwn o’u taclo, a chreu coedwigoedd cryfach.
“Mae’r nematodau’n bwyta lindys y gwiddon, gan ddelio â’r broblem yn llygad y ffynnon fel petai.
“Bydd lleihau poblogaeth gyffredinol y gwiddon yn y bloc coedwig yn lleihau’r niwed i goed ifanc ac yn creu coedwig gryfach.
“Byddwn yn monitro’r gwaith yn ofalus i weld a ellir defnyddio’r dull yn ehangach yn y dyfodol, gan ddefnyddio llai fyth o gemegau.”
Fe fydd yr ardaloedd sydd wedi’u trin yn cael eu gadael am chwe wythnos er mwyn gweld a yw’r nematodau wedi llwyddo i ladd lindys y gwiddon cyn i’r ailblannu ddechrau.
Mae CNC yn rheoli 126,000 hectar o goedwigoedd a choetiroedd ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru – mae hyn yn cyfateb i chwech y cant o gyfanswm arwynebedd y wlad ac oddeutu 40 y cant o goedwigoedd Cymru.
Daw coedwigoedd ag amrywiaeth o fuddiannau, yn ogystal â dull cynaliadwy o gynhyrchu pren. Maent yn helpu i reoli dŵr ac yn darparu cynefin i fywyd gwyllt.
Ac mae gan goedwigoedd ran hollbwysig i’w chwarae wrth reoli effeithiau newid hinsawdd trwy leihau lefelau carbon deuocsid yn yr atmosffer.