Arestio dyn mewn safle gwastraff anghyfreithlon honedig

Mae gŵr 49 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o weithredu safle gwastraff anghyfreithlon yn ardal Abertawe.
Ar ddydd Mawrth (14 Tachwedd), ymwelodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyda chymorth Heddlu De Cymru â fferm yn Sgiwen i ymchwilio i honiadau o ollwng, storio a chladdu symiau sylweddol o wastraff.
Roedd y cyrch yn rhan o ymchwiliad parhaus ehangach CNC i weithgaredd gwastraff anghyfreithlon.
Ar y fferm daeth y swyddogion o hyd i swm mawr o wastraff oedd wedi ei dipio’n anghyfreithlon dros ardal eang ac a oedd yn cyrraedd dyfnder o 4m mewn mannau.
Aed â gŵr i Orsaf Heddlu Ganolog Abertawe i’w holi ac mae’r ymchwiliadau yn parhau.
Meddai Ann Weedy, Rheolwr Gweithgareddau Gorfodi CNC:
“Mae troseddau gwastraff nid yn unig yn beryglus i’r amgylchedd, ond maen nhw hefyd yn achosi risg i gymunedau lleol, a hefyd yn tanseilio busnesau gwastraff cyfreithlon.
“Bydd gweithgareddau fel hyn yn lledaenu’r neges na fydd troseddau gwastraff yn cael eu goddef.”
Mae troseddau gwastraff yn broblem ddifrifol sy’n costio miliynau o bunnoedd i fusnesau, i dirfeddianwyr a threthdalwyr bob blwyddyn ac maent yn achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd, i iechyd pobl ac i fywyd gwyllt.
Os oes unrhyw un yn amau fod gweithgaredd gwastraff anghyfreithlon yn digwydd yn eu hardal dylid rhoi gwybod i linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.