Cyfoeth Naturiol Cymru yn apelio am wybodaeth ynglŷn â digwyddiad o lygredd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â digwyddiad o lygredd a laddodd 300 o bysgod yn ystod y penwythnos.
Mae swyddogion CNC ar y safle yn ymchwilio fewn i ffynhonnell y llygredd ar hyd 1km o’r Afon Ddulas, llednant o’r Afon Tywi, Sir Gaerfyrddin.
Yn yr adroddiadau gwreiddiol cofnodwyd fod 30 o bysgod wedi cael eu lladd ond datgelodd ymchwiliad pellach y nifer i fod dros 300.
Dywedodd Andrea Winterton, Reolwr Gweithrediadau De Orllewin Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae ein hafonydd yn cynnal llawer o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid felly mae’n bwysig ein bod yn cael gwared â’r llygredd cyn gynted â phosibl.
“Rydym wedi bod yn chwilio am achos y llygredd ers inni dderbyn y wybodaeth ar ddydd Sul.
“Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad, rhowch wybod i ni ar ein llinell argyfwng ar 0800 807060.”