Bwrdd CNC i gyfarfod yn Aberystwyth

Gwahoddir pobl i ddod i un o gyfarfodydd Cyfoeth Naturiol Cymru, a gweld y Bwrdd yn trafod ei fusnes.
Amser: 9:00yb – 1:00yp, Cyfarfod â’r Bwrdd 1:00yp – 1:45yp
Dyddiad: Dydd Iau 7 Gorffennaf 2016
Lleoliad: Canolfan Morlan, Morfa Mawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2HH.
Mae’r pynciau trafod ar y rhaglen yn cynnwys Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol, mynd i’r afael ag effeithiau llygredd gwasgaredig, trawsleoliadau cadwraeth, cynllun marchnata a chyfathrebu, ac adroddiad cyllid diwedd y flwyddyn 2015/16.
Bydd gan bobl gyfle, hefyd, i gyfarfod aelodau’r Bwrdd, a thrafod pynciau’r rhaglen wedi i’r cyfarfod ddod i ben.
Dylai’r sawl sy’n dymuno dod i’r cyfarfod gysylltu â ysgrifenyddiaethbwrddcnc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk cyn y cyfarfod.
Bydd y papurau sydd i’w cyflwyno a’u trafod yn y cyfarfod ar gael i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bum diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.