Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad lladd pysgod yn un o is-afonydd Afon Rhymni

Nant Cylla

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i ddigwyddiad llygredd yn Ne Ddwyrain Cymru, sydd wedi lladd nifer sylweddol o bysgod yn Nant Cylla, un o isafonydd Afon Rhymni ar ddydd Llun, 21 Mawrth.

Cyrhaeddodd swyddogion CNC y safle yn fuan ar ôl derbyn adroddiadau o ddŵr afliwiedig ac ewyn a oedd yn effeithio ar oddeutu milltir o’r afon.

Cymerwyd samplau o’r dŵr a chynhaliwyd asesiad pysgodfa, a chadarnhaodd swyddogion fod mwy na 300 o bysgod wedi cael eu lladd, gan gynnwys Brithyllod a Chrethyll. Cynhaliwyd ymweliad dilynol ar ddydd Mawrth, 22 Mawrth.

Ers hynny mae swyddogion wedi gallu dod o hyd i ffynhonnell y llygredd ac maen nhw’n cadarnhau fod gollyngiadau i’r cwrs dŵr wedi dod i ben.

Nawr bydd y samplau yn cael eu dadansoddi a byddant yn cyfarwyddo cam gweithredu nesaf CNC.

Meddai Jon Goldsworthy, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae diogelu afonydd Cymru a'r cymunedau a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt yn rhan bwysig o'n gwaith. Cyn gynted ag y cawsom adroddiadau am y digwyddiad hwn, roedd ein swyddogion allan ar y safle yn ymchwilio.
Yn anffodus, gallwn gadarnhau bod dros 300 o bysgod wedi'u lladd yn y digwyddiad llygredd hwn, a bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar stociau pysgod lleol.
Credwn ein bod wedi dod o hyd i'r ffynhonnell a byddwn yn ystyried pa gamau i'w cymryd nesaf, gan gynnwys unrhyw gamau gorfodi priodol yn erbyn y sawl sy'n gyfrifol.
Rydym yn ddiolchgar i'r rhai a roddodd wybod i ni am y digwyddiad hwn. Byddem yn annog unrhyw un i roi gwybod i ni am arwyddion o lygredd drwy ffonio 0300 065 3000, neu drwy ein gwefan er mwyn sicrhau y byddwn yn gallu ymateb cyn gynted â phosibl.