Defnydd newydd i offer pysgota a atafaelwyd
Mae offer pysgota a gymerwyd oddi ar bysgotwyr anghyfreithlon yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ar ôl cael ei roi i Gymdeithas Pysgota i’r Anabl Pen-y-bont a’r Ogwr a’r Cylch gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bellach mae’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd adeiladol gan y Gymdeithas, sy’n cynnig amgylchedd diogel i ddysgu pysgota ar gyfer oedolion a phlant ag anableddau gyda hyfforddwyr arbenigol.
Mae hyn wedi bod yn llygedyn o oleuni i Cyfoeth Naturiol Cymru yng nghanol y frwydr yn erbyn pysgota anghyfreithlon.
Meddai Paul Frodsham, swyddog gorfodi pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn rheoli pysgota fel gall y gweithgaredd hamdden hwn y mae cymaint yn ei fwynhau ddal i fod yn rhywbeth cynaliadwy ac y gall cenedlaethau i ddod barhau i’w fwynhau.
“Fodd bynnag, mae rhai yn dal i feddwl y gallant ddiystyru’r rheolau a physgota heb drwydded, a’r bobl hyn sy’n peryglu dyfodol y gweithgaredd i bawb.
“Tra bo’r frwydr yn erbyn pysgota anghyfreithlon yn parhau, mae wedi bod yn ardderchog ein bod wedi gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a chyflwyno’r offer i achos gwerth chweil.
“Yr hyn sy’n rhagorol ynglŷn â physgota yw ei fod yn weithgaredd am oes, y gall pawb ei fwynhau. Rydym yn gobeithio y bydd y nifer fawr o ymwelwyr sy’n dod i’r clwb yn mwynhau’r cyfle i ddysgu sgil newydd, ac ar yr un pryd cyfarfod pobl newydd a chael cyfle i grwydro’n hamgylchedd rhyfeddol.”
Meddai Ralph Merchant, Cadeirydd Cymdeithas Pysgota i’r Anabl Pen-y-bont a’r Ogwr a’r Cylch
“Yn aml mae offer yn brin, felly mae’r rhodd hon wedi bod yn hynod o ddefnyddiol ac rydym yn edrych ymlaen at wneud y defnydd gorau ohono.
“Rydym yn helpu oedolion a phlant ag amrediad o anableddau drwy eu dysgu sut i daflu a rilio a defnyddio rhwydau pysgota. Bydd rhai yn dysgu sgiliau newydd a bydd eraill yno yn unig i fwynhau diwrnod allan – y prif syniad yw eu bod yn cael cyfle i fwynhau’r profiad o bysgota.”
Yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu llwyddodd Cyfoeth Naturiol Cymru i ddal 139 o unigolion yn cyflawni amrywiaeth o droseddau, yn cynnwys diffyg trwydded bysgota â gwialen a rhwydo anghyfreithlon a cham fachu.
Arweiniodd hyn at erlyniadau llwyddiannus ym mhob un ond tri o’r achosion, a dirwyon gwerth £18,468 yn ogystal ag atafaelu offer a gêr pysgota.
Gall bobl roi gwybod inni os byddant yn drwgdybio achos o bysgota anghyfreithlon drwy gysylltu â llinell gymorth 24 awr Cymorth Naturiol Cymru ar 0800 807060.
Mae Cymdeithas Pysgota i’r Anabl Pen-y-bont a’r Ogwr a’r Cylch yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n gallu helpu dysgu oedolion a phlant anabl sut i bysgota. Dylai unrhyw bysgotwyr sy’n fodlon gwirfoddoli gysylltu â’r Cadeirydd, Ralph Merchant ar 01656 660683.