Lansio map newydd o fawndiroedd Cymru a chynllun grant newydd i hybu cadwraeth

Mae mawndiroedd gwerthfawr Cymru nawr i’w gweld ar fap newydd a fydd yn tracio sut mae’r cynefin yn adfer trwy gamau cadwraeth dros y blynyddoedd nesaf.

Yn hanfodol ar gyfer storio llawer iawn o garbon yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, mae mawndiroedd hefyd yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt, yn helpu i buro dŵr ac yn gallu lleihau perygl llifogydd.

Gan ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, mae gan Raglen Gweithredu Mawndiroedd Cymru dargedau uchelgeisiol ar gyfer adfer mawndiroedd Cymru.

Gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud dros ddwy flynedd gyntaf y rhaglen, mae cynllun grant newydd yn agor yr wythnos hon gyda £100,000 ar gael i unigolion a sefydliadau ddatblygu prosiectau cadwraeth mawndiroedd y gellid wedyn eu hariannu drwy Raglen Weithredu Mawndiroedd Cymru, neu ffrydiau ariannu eraill.

Wedi’i ganfod yma, mae Map Mawndiroedd Cymru yn rhan o un ffynhonnell newydd o wybodaeth am sawl agwedd ar gadwraeth mawndiroedd, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae’n crynhoi ehangder a dyfnder mawndiroedd Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am faint o garbon maent yn ei storio ac amcangyfrif o’r carbon maent yn ei ryddhau i’r atmosffer pan fyddant mewn cyflwr gwael.

Mae'r Map ar gael am ddim i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio. Bydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd i ddangos darlun o adferiad y cynefin trwy reolaeth cadwraethol.

Dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James: “Efallai nad yw ein corsydd yn swnio’n hudolus iawn, ond nhw yw arwyr di-glod Cymru. Mae eu hadfer yn hanfodol i'n hymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd. Pan fo mawnogydd mewn cyflwr da, nhw yw ein sinciau carbon daearol mwyaf effeithlon; maent yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phlanhigion, a hyd yn oed yn helpu i buro ein dŵr yfed ac ymdrochi. Ond pan fyddant yn cael eu diraddio, gallant allyrru mwy o garbon nag y maent yn ei ddefnyddio a helpu i gyflymu newid yn yr hinsawdd.
“Bydd y mapiau a gyhoeddir heddiw yn ein helpu i ddeall eu rôl werthfawr. Gyda’r wybodaeth hon a’r gronfa ariannu mawndiroedd newydd, rwy’n annog grwpiau a chymunedau i gymryd rhan yn y gwaith o adfer a diogelu ein corsydd fel y gallwn drosglwyddo Cymru yr ydym yn falch ohoni, i genedlaethau’r dyfodol.”

Mae angen adfer mawndiroedd Cymru ar frys oherwydd niwed yn y gorffennol - ac mewn rhai achosion niwed sy’n dal i ddigwydd - gan gynnwys draenio, erydiad, colli cynefinoedd a chyfoethogi drwy faetholion.

Pan gaiff mawndir ei ddraenio, mae’n sychu, gan arwain at ryddhau carbon - sydd wedi cronni yn y mawn dros filoedd o flynyddoedd - gan ychwanegu at allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae gwaith i adfer mawndiroedd Cymru eisoes yn dangos arwyddion o lwyddiant, ond mae llawer i’w wneud o hyd.
“Dyna lle bydd y grantiau o gymorth. Gyda’r rhan fwyaf o fawndiroedd Cymru mewn cyflwr gwael o hyd, rydyn ni’n edrych ymlaen at lawer o syniadau gan unigolion a sefydliadau ledled Cymru sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.”

Mae cyfnod ceisiadau ar gyfer grantiau datblygu eleni yn cau ar 4 Gorffennaf 2022 a gellir dod o hyd i’r wybodaeth fan hyn.

Comisiynwyd Map Mawndiroedd Cymru – o fewn y porth gwybodaeth a ddatblygwyd gan CNC fel rhan o’r Rhaglen Weithredu Mawndiroedd Cenedlaethol – gan Lywodraeth Cymru oddi wrth Ganolfan Gwybodeg Amgylcheddol ac Amaethyddol Prifysgol Cranfield, gyda data ategol gan Lywodraeth Cymru, CNC, a’r British Geological Survey, ynghyd â phartneriaid y Rhaglen Weithredu Mawndiroedd Cenedlaethol.

Mae adfer mawndiroedd Cymru yn waith i ystod eang o bartneriaid – gan gynnwys Llywodraeth Cymru, CNC, RSPB CYmru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Lleol a’r holl ffermwyr a rheolwyr tir sydd mor hanfodol i oroesiad y lleoedd unigryw hyn.

 

Gwyliwch ein fideo:

Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd - Adfer Mawndiroedd Cymru - YouTube

Natura 2000 - Gwlypdiroedd Deniadol - YouTube