Llwybr a phont droed newydd yn ei gwneud yn haws crwydro yng Nghoedwig Crychan

Mae llwybr coedwig newydd wedi agor yn y Canolbarth, gan roi cyfle gwych i gerddwyr fwynhau’r awyr agored.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chymdeithas Coedwig Crychan wedi cydweithio i ymestyn a gwella hen lwybr yng Nghoedwig Crychan ger Llanymddyfri.
Mae llwybr newydd Fferm Cefn yn mynd â cherddwyr ar daith gylchol am ddwy filltir a hanner drwy goedwig lle y ceir clychau’r gog a heibio adfeilion fferm Glyn Moch.
Mae’r llwybr, a oedd gynt yn llwybr marchogaeth yn unig, bellach yn cynnwys pont droed newydd fel y gall cerddwyr hefyd gyrraedd rhan hardd o Goedwig Crychan drwy’r flwyddyn, heb wlychu eu traed.
Dywedodd Brian Hanwell, Rheolwr Ardal Leol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Roedd adeiladu’r bont droed yn gydymdrech wych gan ein peirianwyr sifil a’n staff ardal, ac roeddem wrth ein bodd ar frwdfrydedd aelodau Cymdeithas Coedwig Crychan wrth helpu i wireddu’r cynllun.
“Gobeithiwn y bydd llawer o bobl yn ymweld â’r goedwig, yn cerdded ar y llwybr newydd hwn, ac yn dod yn iachach, gan fwynhau cyfleusterau ffitrwydd byd natur!”
Dywedodd Chris Laing, cadeirydd Cymdeithas Coedwig Crychan:
“Roedd Cymdeithas Coedwig Crychan yn falch o gydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru drwy brynu’r deunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu pont droed dros Afon Crychan.
“Bu ein haelodau’n cerdded ar y llwybr am y tro cyntaf ddydd Iau ac roedd pawb wrth eu bodd ag ef.”