CNC yn ymgynghori ynghylch cais am drwydded gan ffatri yn Wrecsam
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrthi’n ymgynghori ynghylch cais i amrywio trwydded sy’n angenrheidiol i weithredu ffatri ger Wrecsam.
Mae Kronospan Ltd yn Y Waun wedi cyflwyno cais i amrywio’i drwydded amgylcheddol, sy’n ofynnol er mwyn trosglwyddo gweithgareddau a gaiff eu rheoleiddio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i CNC.
Prif nod CNC yw sicrhau y caiff y ffatri paneli pren ei rheoleiddio mewn modd a fydd yn arwain at welliannau amgylcheddol.
Mae’r cais yn ymdrin â gweithgareddau prosesu pren a gweithgareddau iard logiau, cynhyrchu MDF a byrddau gronynnau/naddion a gweithredu bwyleri biomas.
Hefyd, mae cynnig yn ymwneud â chael llinell gynhyrchu newydd ar gyfer byrddau naddion (OSB) yn rhan o’r cais.
Bydd CNC yn cynnal sesiwn galw heibio ddydd Mercher 19 Medi, 2pm-8pm, yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Plwyf, Y Waun, fel y gall pobl ddysgu mwy am y cais a lleisio’u barn.
Meddai Lyndsey Rawlinson, Rheolwr Gogledd Ddwyrain Cymru yn CNC:
“Dim ond os ydym yn hollol fodlon fod cynlluniau cwmni yn dangos yn gwbl glir y gall weithredu’n ddiogel, heb niweidio’r amgylchedd na chymunedau lleol, y byddwn yn rhoi trwydded amgylcheddol iddo.
“Fel rhan o’r broses hon, yn awr rydym yn ymgynghori gyda thrigolion yr ardal a sefydliadau perthnasol. Bydd yr holl wybodaeth berthnasol a grybwyllir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei hystyried cyn inni wneud penderfyniad.”
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y cais i amrywio’r drwydded a sut i ddweud eich dweud ar wefan cyfoethnaturiol.cymru neu drwy ebostio permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk
Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 19 Hydref 2018.