Cynllun llifogydd CNC yn amddiffyn cartrefi yn Llanelli

Llwyddodd cynllun llifogydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ardal Pwll, Llanelli, sy’n werth £1.6 miliwn, i amddiffyn 139 o gartrefi rhag llifogydd ar ôl i law trwm effeithio yr ardal.
Ddydd Llun (1 Awst) disgynnodd 40 milimetr o law yn yr ardal a chyhoeddwyd tri o rybuddion llifogydd ar gyfer Llanelli a’r dalgylch gwledig i’r gorllewin o’r dref.
Y lefelau dŵr yma yn yr Afon Dulais oedd y rhai uchaf i’w cofnodi ers i’r cynllun gael ei gwblhau.
Nos Lun roedd gweithwyr CNC ar y safle yn monitro’r cynllun ac yn helpu’r awdurdod lleol.
Meddai Phillip Pickersgill, Rheolwr Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd Ardal yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Ar y cyfan fe weithiodd y cynllun llifogydd yn dda, mae wedi’i gynllunio i amddiffyn 1 siawns mewn 100 gartrefi, o lifogi.
“Mae hwn wedi bod yn ddatblygiad pwysig yn ardal y Pwll ac mae’n rhan o gannoedd o filltiroedd o amddiffynfeydd llifogydd rydym wedi’u hadeiladu o amgylch Cymru.
“Gobeithio y bydd yn tawelu meddyliau pobl yr ardal sydd wedi bod yn byw gyda bygythiad llifogydd ers sawl blwyddyn bellach.”
Bydd rhai gwersi’n cael eu dysgu yn sgil y digwyddiad, gan fod ambell garej yn Nheras Bassett wedi dioddef llifogydd.”
Ar hyn o bryd does dim esboniad i’r mater yma sy’n awr yn cael ei ymchwilio.
Ychwanegodd Phil Pickersgill:
“Byddwn yn adolygu’r digwyddiad er mwyn gweld pa welliannau y gellir eu gwneud ar gyfer y dyfodol.
“Ni allwn rwystro llifogydd rhag digwydd yn gyfan gwbl, ond fe allwn amddiffyn pobl yn well trwy gyfrwng cynlluniau o’r fath.”
Cafodd y cynllun, a ariannir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cynnwys mur 90 metr o hyd sy’n sianelu unrhyw orlifiant i bwll dalgylch, ei gwblhau yn 2013.
Mae’n lleihau’r perygl llifogydd ar gyfer ardal y Pwll, sydd wedi dioddef llifogydd o du Afon Dowlais yn y gorffennol, yn fwyaf diweddar yn 2009.