CNC yn ymchwilio achos o lygredd
Mae ein swyddogion yn ymchwilio i ddigwyddiad o lygredd ar ddwy nant yn Sir y Fflint.
Cafodd y digwyddiad ei riportio i ni ddoe (Mawrth 12 Ebrill) gan berson lleol oedd wedi sylwi bod dŵr yn Nentydd Alltami Nant a Gwepre yn fudr.
Mae bron i ddwy filltir o'r cyrsiau dŵr wedi cael eu heffeithio gan y deunydd, sy'n ymddangos fel gwaddodion.
Mae'r llygredd bellach wedi cael ei atal ar ôl i'n swyddogion ddarganfod y ffynhonnell.
Maent hefyd wedi cymryd samplau dŵr i'w dadansoddi ymhellach ac mae ansawdd dŵr y nentydd bellach yn gwella. Disgwylir iddo dychwelyd i normal yn ystod y dyddiau nesaf.
Gall gwaddodion niweidio bywyd gwyllt mewn afonydd a cael effeithiau hirbarhaol ar silio pysgod gan ei fod yn mygu'r graean lle mae pysgod yn dodwy eu hwyau.
Nid oes unrhyw adroddiadau o bysgod wedi eu lladd yn y digwyddiad hwn.
Mae Nant Gwepre yn rhedeg drwy Parc Gwepre yng Nglannau Dyfrdwy ac i mewn i'r Afon Dyfrdwy, un o afonydd pysgota pwysicaf Cymru a ffynhonnell bwysig o ddŵr. Fodd bynnag, nid oes unrhyw effaith hysbys ar ansawdd dŵr yn y Dyfrdwy.
Dywedodd Steven White, swyddog amgylcheddol i CNC: "Hoffem ddiolch i'r rhai sydd wedi adrodd am y digwyddiad hwn fel y gallwn gymryd camau cyflym i fynd i'r afael ag ef.
"Nid yw ein asesiadau hyd yma wedi dangos unrhyw arwyddion o bysgod meirw neu bysgod mewn trafferthion ac rydym yn disgwyl i'r sefyllfa wella yn raddol yn ystod y dyddiau nesaf
"Os oes unrhyw un yn pryderu am lygredd pellach, neu yn sylwi ar unrhyw effeithiau ar bysgod neu fywyd gwyllt, dylent roi gwybod i ni ar unwaith ar ein llinell digwyddiadau ar 0800 807060."