Cynlluniau CNC i wella dyfroedd Cymru

Mae cynlluniau i ddiogelu a gwella amgylchedd y dŵr yng Nghymru yn ystod y chwe blynedd nesaf wedi’u cyhoeddi.
Mae’r cynigion, a elwir yn Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd, wedi’u dwyn ynghyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Yn y rhain nodir y camau y mae angen eu cymryd yn ystod y chwe blynedd nesaf i wneud afonydd, nentydd a llynnoedd Cymru yn lleoedd gwell ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.
Ymhellach, maent yn ystyried ardaloedd dyfrol Cymru fel rhan o’r amgylchedd ehangach – gan ystyried y darlun cyflawn yn hytrach na chanolbwyntio ar rannau unigol o’r amgylchedd. Dyma’n union yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i CNC ei wneud ar ôl pasio Mesur yr Amgylchedd.
Mae’r cynlluniau hefyd yn ystyried ardaloedd dyfrol Cymru fel rhan o’r amgylchedd ehangach, a bydd y camau a gynigir yn y cynllun yn gwella gwytnwch ecosystemau ac yn esgor ar fanteision lu – er enghraifft gall gwella dulliau o reoli tir yn yr ucheldiroedd arwain at fanteision sylweddol o safbwynt newid hinsawdd, gwytnwch, dal carbon, storio llifogydd a gwella ansawdd y dŵr ymhellach i lawr yr afon. Dyma’n union yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru eisiau i CNC ei wneud pan basiwyd Bil yr Amgylchedd.
Meddai Rhian Thomas, Arweinydd Tîm y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn CNC: “Mae pob un ohonom yn dibynnu ar ddŵr ar gyfer yfed, ar gyfer amaethyddiaeth neu fusnes, ar gyfer hamddena neu i ddenu twristiaid.
“Nod y cynlluniau hyn yw darparu dŵr glân ac iach, a gwella ansawdd y dŵr, gan leihau llygredd a chynnal mwy o fywyd mewn afonydd.”
Yn ôl y cynlluniau, y prif sialensiau o safbwynt gwella ansawdd y dŵr yw lleihau effeithiau elifion carthion, atal llygredd o ystadau diwydiannol, ymdrin â dŵrmwyngloddiau metel, cynnig cyngor yn ymwneud â dulliau da o reoli tir ac ymdrin â’r pwysau mawr ar amgylchedd y dŵr, gan gynnwys tynnu gormod o ddŵr.
Ychwanegodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol CNC: “Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd yn ystod y chwe blynedd diwethaf, ond mae yna lawer mwy i’w wneud.
“Ac ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae gweithio gydag eraill yn hollbwysig o ran gwireddu’r gwelliannau y dymunwn eu gweld.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Paneli Cyswllt, partneriaid o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol fel yr Ymddiriedolaethau Afonydd, Grwpiau Ffermio, Awdurdodau Lleol, Grwpiau Porthladdoedd, Grwpiau Busnesau a Diwydiannau a Physgodfeydd, i sicrhau ansawdd dŵr gwell fyth yng Nghymru.”
Ceir tair o ardaloedd basnau afonydd yng Nghymru – ardal Gorllewin Cymru, ardal Dyfrdwy ac ardal Hafren, ac mae gan bob un ei Chynllun Rheoli Basn Afon diweddar ei hun. Gellir eu gweld yma: https://naturalresources.wales/water/quality/?lang=cy