CNC yn codi ymwybyddiaeth o lifogydd yn Abercynffig
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn mynd o ddrws i ddrws yn Abercynffig yr wythnos hon er mwyn darparu cyngor ymarferol a gwybodaeth i’r cyhoedd ar sut y gallant baratoi ac ymateb ynghynt i lifogydd.
Mae Abercynffig wedi ei lleoli ger Afon Llynfi ac ar hyn o bryd, mae yno 800 o eiddo allai fod mewn perygl petai yna lifogydd.
Bydd y digwyddiad yn cymryd lle ar 27 a 28 Mehefin pan fydd staff CNC yn ymweld ag eiddo nad sydd, hyd yn hyn, wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd.
Yn ystod yr ymweliadau, bydd staff yn sgwrsio â thrigolion ynghylch cynlluniau llifogydd cymunedol a busnes.
Byddant hefyd yn hyrwyddo manteision cofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd y gellir ei dderbyn trwy neges destun, e-bost neu dros y ffôn.
Dywedodd Ffion Edwards, Cynghorydd Rheoli Digwyddiadau Llifogydd CNC:
“Gall llifogydd gael effaith andwyol gan greu difrod gwerth miloedd o bunnoedd yn ogystal â phoen meddwl emosiynol.
“Mae cynlluniau llifogydd cymunedol yn ffyrdd gwych i bobl gydweithio er mwyn adeiladu gwydnwch cymunedol a gallant hefyd sbarduno gweithgareddau eraill sydd o fantais i’r gymuned.
“Rydym wedi trefnu nifer o ddiwrnodau ymgysylltu ledled Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd mwyfwy o bobl yn gweld manteision cofrestru ar gyfer ein system rhybudd llifogydd.”
Er mwyn cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd, i wirio mapiau llifogydd neu am ragor o wybodaeth, ewch i: www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd