CNC yn ymateb i ddigwyddiad llygredd yng Nghil-y-coed

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymateb i ddigwyddiad yng Nghil-y-coed sy'n ymwneud a phibell carthion sydd wedi torri
Mae swyddogion CNC ar hyn o bryd yn asesu’r effaith ar yr amgylchedd ac yn gweithio gyda Dŵr Cymru er mwyn eu cynghori ar fesurau i amddiffyn ardaloedd sensitif cyfagos.
Mae’r rhain yn cynnwys gwastadeddau Gwent, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac Aber Afon Hafren, Ardal Cadwraeth Arbennig.
Mae Dŵr Cymru wedi ymateb i’r digwyddiad ac yn gweithio i atgyweirio’r bibell. Mae hyn yn cynnwys cludo deunydd o orsaf pwmpio carthion gerllaw.
Mewn ardaloedd eraill, mae arllwysfeydd argyfwng yn cael eu defnyddio i reoli llif carthion gwanedig. Mae gan Dŵr Cymru hawl i wneud hyn mewn amgylchiadau brys.
Dywedodd Holly Sisley, Arweinydd Tîm Rheoli Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn monitro’r gwaith yma er mwyn sicrhau bod popeth posib yn cael ei wneud er mwyn lleihau effaith y digwyddiad ar yr amgylchedd lleol.
“Byddwn yn cadw llygad manwl ar ansawdd dŵr yn yr ardal ac aros ar y safle nes y byddwn yn hyderus bod y bibell wedi’i hatgyweirio.
“Dylai unrhyw un sy’n cerdded ar hyd y llwybr arfordir sy’n rhedeg ar hyd Aber Afon Hafren fod yn ymwybodol fod gwaith atgyweirio ger y llwybr troed, ac fe all fod arogl ac olion carthion i’w gweld ar ran fechan ohono.
“Bydd y gollyngiadau brys i’r Aber yn parhau drwy’r dydd heddiw tra byddwn yn gweithio gyda Dŵr Cymru i unioni’r broblem.”
I adrodd pryderon ynghylch llygredd ffoniwch linell digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.