CNC yn cefnogi Cyngor Sir y Fflint i annog mwy o ysgolion i ddysgu yn yr amgylchedd naturiol

Athrawon yn Sir y Fflint ar gwrs dysgu yn yr awyr agored gan CNC

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)  yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i gynyddu nifer y cyfleoedd dysgu awyr agored i ddysgwyr ledled y sir.

Mae hyn yn rhan o fenter gan y Cyngor i ddarparu hyfforddiant a chymorth i athrawon ac ymarferwyr fel y gallant gynyddu faint o amser maen nhw’n ei dreulio’n dysgu o fewn, ynghylch ac er budd yr amgylchedd naturiol.

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi dysgu yn yr awyr agored fel dull allweddol o ddarparu’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae dysgu yn yr awyr agored hefyd yn cael ei gydnabod yn eang am ei fuddion sylweddol o ran iechyd a lles.

Mae ymchwil cychwynnol gan dîm Addysg Cyngor Sir y Fflint yn awgrymu bod disgyblion Cyfnod Sylfaen (3-7 mlwydd oed) yn y sir ar hyn o bryd yn treulio oddeutu 30% o’u hamser mewn ardaloedd awyr agored ger eu hystafelloedd dosbarth, ac mae dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 (7-11 mlwydd oed) yn treulio tua 10% o’u hamser yn gwneud gweithgareddau awyr agored.

Mae’r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth gyda CNC i helpu i gyflawni’r nod o gynyddu faint o addysg awyr agored sy’n cael ei ddarparu yn y sir, yn enwedig ymysg plant 7-11 mlwydd oed.

Eglurodd Jane Borthwick, Uwch Gynghorydd Dysgu gyda Chyngor Sir y Fflint:

“Rydym ni wedi ychwanegu targed penodol i’n cynllun busnes blynyddol i gefnogi ein hysgolion i gynyddu addysg awyr agored.
“Gwyddwn fod arferion da iawn o ran darparu’r dull ysgolion coedwig yn y sir a bod ysgolion yn canolbwyntio ar ddysgu yn yr awyr agored ar ffurf dyddiau a sesiynau penodol. Ein nod yw galluogi mwy o ymarferwyr mewn mwy o ysgolion i ddarparu addysg yn yr awyr agored fel elfen naturiol o’r Cwricwlwm.
“Fel rhan o gynllun busnes Sir y Fflint, ac mewn cydweithrediad gyda’r gwasanaeth gwella ysgolion, GwE, rydym ni’n cynnig cyfres o gyfleoedd hyfforddi a mynediad er mwyn i athrawon a disgyblion ddod allan i’r awyr agored a datblygu strategaethau ychwanegol ar gyfer dysgu llwyddiannus yn yr awyr agored.
“Rydym ni’n hynod o falch i lansio’r rhaglen hon gyda chyfres o sesiynau rhagarweiniol dan arweiniad CNC dros yr hanner tymor hwn. Rydym ni’n gwerthfawrogi arbenigedd a phrofiad staff Addysg a Dysgu CNC i’n helpu i ysbrydoli athrawon ar ffurf sesiynau hyfforddi a datblygu am ddim.”
Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf ddydd Llun (8 Tachwedd) a bydd y nesaf yn cael ei chynnal ddydd Gwener (12 Tachwedd) gan gynnwys 41 athro o bob rhan o’r sir.

Meddai Sue Williams, Arweinydd Tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol CNC:

“Rydym ni’n llongyfarch Cyngor Sir y Fflint ar ei agwedd tuag at addysg awyr agored ar draws y sir.
“Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar y Cwricwlwm newydd i Gymru’n nodi y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng dysgu dan do a dysgu yn yr awyr agored. Gan ddefnyddio tystiolaeth o’u harolwg ysgolion, mae’n braf gweld y Cyngor yn gweithredu’n rhagweithiol i gynyddu faint o ddysgu sy’n cael ei wneud yn yr awyr agored i fod yn nes at faint o amser sy’n cael ei dreulio yn y dosbarth.
“Rydym ni wedi llunio ein sesiynau i fod mor rhyngweithiol ac ymarferol â phosibl mewn modd sy’n rhoi’r cymhelliant a’r adnoddau i athrawon allu darparu mwy o brofiadau dysgu mewn lleoliad awyr agored, a helpu i sefydlu ymddygiad sy’n parchu’r amgylchedd o oedran ifanc.”

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu model dilyniant naturiol i esbonio bod gan bawb y potensial i symud, gam wrth gam, o fod yn yr amgylchedd naturiol a chysylltu ag e fi sefydlu sawl ymddygiad cadarnhaol gydol oes a fydd yn ein hannog ni i gyd i ofalu am ein byd. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael ar y tudalennau Addysg, Dysgu a Sgiliau ar wefan CNC.

Mae rhagor o fanylion ynglŷn â buddion amrywiol dysgu yn yr awyr agored ar gael ar y dudalen Ymchwil dysgu yn yr awyr agored ar ein gwefan.