Cynlluniau i gwympo llarwydd wedi’u heintio yn Fforest Fawr

Bydd gwaith paratoi yn cychwyn mis nesaf yn Fforest Fawr, Tongwynlais, Caerdydd, ar gyfer cynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i glirio coed llarwydd wedi’u heintio o’r safle yn ystod mis Medi flwyddyn nesaf.
Bydd pobl sy’n ymweld â’r ardal yn sylwi bod peiriannau yn y goedwig dros yr wythnosau nesaf i docio a pharatoi’r coed, ond ni fydd mynediad wedi’i gyfyngu tra bydd hyn yn digwydd.
Y flwyddyn nesaf, bydd CNC yn cynaeafu tua 4,000 o goed llarwydd sydd wedi’u heintio o’r goedwig. Mae hwn yn rhan o strategaeth genedlaethol i ymdrin â’r clefyd sydd wedi effeithio tua 6.7 miliwn o goed llarwydd ar draws Cymru.
Mae coed llarwydd marw yn y goedwig yn amlwg yn dangos yr effaith gaiff y clefyd ar goedwigoedd yng Nghymru.
Dywedodd Gareth Roberts, Rheolwr Ardal Leol o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn gwybod bod y gymuned yn hoff iawn o Fforest Fawr ac rydym am sicrhau pobl y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i leihau unrhyw amhariad gan y gwaith.
“Er ei fod ymhell i ffwrdd, rydym eisoes yn cynllunio’r gwaith mewn dau gam, fel y gallwn gadw ardaloedd o’r goedwig ar agor i bobl eu defnyddio. Bydd hyn hefyd yn lleihau’r effaith ar rywogaethau gwarchodedig a’r bywyd gwyllt lleol.
“Mae’n drist ein bod yn gorfod clirio’r coed, ond rydym yn gwybod bydd y goedwig yn parhau i fod yn lle gwych i bobl ymweld â hi yn y dyfodol.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau lleol a grwpiau diddordeb i roi gwybodaeth am gynnydd ein cynlluniau, ac yn ystod y gwaith cynaeafu.”
Unwaith bydd y gwaith yn dechrau ym Medi 2018, mae’n debygol o barhau tan 2021.
Ar ôl y cynaeafu, bydd CNC yn annog rhywogaethau brodorol i atgynhyrchu’n naturiol, e.e. ffawydd, derw, bedw, ceirios gwyllt, criafol a chyll. Bydd CNC yn monitro’r atgynhyrchu yn y goedwig am y blynyddoedd nesaf cyn ystyried a fydd angen ailblannu.
Bydd rhai o’r cerfluniau pren ar hyd y llwybrau yn cael eu tynnu ymaith hefyd gan fod llawer ohonynt wedi pydru neu wedi’u difrodi. Mae CNC am roi rhai eraill yn ei lle yn gynnar flwyddyn nesaf.