Ymgynghoriad Ynghylch Fferm Ddofednod
Ymgynghoriad ynghylch trwydded ddrafft Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer fferm ddofednod yn Upper Heath ger Llanandras, Powys.
Mae’r cais gan D L & M Rogers & Sons yn ymwneud â thrwydded ar gyfer fferm ddofednod a fydd yn cynnwys 80,000 o ieir.
Dim ond os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei greu y byddwn yn caniatáu’r drwydded, a dim ond os ydym o’r farn y gall y gweithredwr fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw drwydded a roddwn yn cynnwys amodau addas ar gyfer diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd.
Meddai Dave Powell, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym wedi ymgynghori ag arbenigwyr a phartneriaid proffesiynol, ond byddem yn croesawu sylwadau pellach gan y gymuned leol fel y gallwn ymdrin â’u pryderon."
“Os byddwn yn caniatáu’r drwydded, fe fydd hi’n cynnwys amodau llym ar gyfer diogelu pobl a’r amgylchedd, a chaiff ei rheoleiddio gan ein swyddogion cyhyd ag y bydd ar waith.”
Fe fydd y drwydded yn cynnwys amodau ar gyfer rheoleiddio’r canlynol:
- Aroglau
- Allyriadau
- Sŵn
Mae’r drwydded ddrafft a’r ddogfen benderfynu ddrafft wedi’u rhoi ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer ymgynghori yn eu cylch, ac maent ar gael yn y lleoliad a ganlyn:
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Plas yr Afon,
Parc Busnes Llaneirwg,
Caerdydd,
CF3 0EY.
Gallwch weld ein cofrestr rhwng 9.30 am-4.30 pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener. A wnewch chi ffonio’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 i drefnu apwyntiad.
Fel arall, gallwch ofyn am CD o’r dogfennau drwydded ddrafft a’r penderfyniad drafft trwy gysylltu â ni trwy e-bost neu trwy ysgrifennu atom gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:
permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu Arweinydd y Tîm Trwyddedu (Diwydiant Rheoledig), Cyfoeth Naturiol Cymru, Llawr 5, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.
Rhoddwyd yr ymgynghoriad ynghylch y drwydded ddrafft ar waith ar 24 Hydref a bydd yn para tan 21 Tachwedd 2014.